Cafwyd hyd i Natasha Randall yn farw yn ei chartref ym Mlaengarw
|
Yn sgîl nifer o hunanladdiadau yn ardal Penybont ar Ogwr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf - mae 'na alw o'r newydd am sefydlu strategaeth genedlaethol i geisio gostwng nifer y bobl ifanc sy'n lladd eu hunain.
Natasha Randall ydi'r seithfed person ifanc o'r ardal i ladd ei hun yn ystod y flwyddyn ddiwetha.
Mae cadeirydd Papyrus, elusen sy'n cynnig cyngor i deuluoedd a ffrinidau pobol ifanc sy'n ystyried lladd eu hunain, wedi dweud wrth y BBC bod gwir angen am sefydlu strategaeth yng Nghymru.
Dywedodd Anne Parry: "Mae strategaeth genedlaethol yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ond ddim yng Nghymru".
Mae Gweinidog Iechyd Cymru Edwina Hart yn dweud y bydd yr arolygiaeth gofal a chymdeithasol yn cyd-weithio gyda'r awdurdod lleol ym Mhenybont ac y byddan nhw'n ystyried a oes angen cymeryd camau pellach ynghylch yr achosion hyn.
'Siarad'
Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Plant a Phobol Ifanc y Cynulliad, Helen Mary Jones: "Dydyn ni fel cymdeithas ddim yn siarad gyda'n gilydd digon. Mae gormod o bwyslais ar beidio â dangos gwendid, yn arbennig dynion.
"Fel rhan o strategaeth, dwi eisiau gweld athrawon, hyfforddwyr, pobl sy'n gweithio gyda'r ifanc yn cael eu hyfforddi i adnabod yr arwyddion fod rhywun ag iselder.
Gan gyfeirio at brofiad personol, ychwanegodd: "Fe wnaeth gefnder imi ladd ei hun, a dwi'n cofio fy modryb yn sôn y byddai hi wedi bod yn haws pe bai car wedi ei ladd e - mae'r effaith mae hunanladdiad yn ei gael ar deulu yn enfawr."
Tasglu
Mae tasglu arbennig wedi cael eu sefydlu yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr i geisio lleihau nifer y bobl ifanc sy'n lladd eu hunain yno.
Mae'r heddlu'n ymchwilio i farwolaeth Natasha Randall.
Cafodd y ferch 17 oed o Flaengarw ei darganfod yn farw yn ei chartref yr wythnos ddiwethaf.
Mae 'na bryder hefyd bod merch 15 oed, oedd o bosib yn nabod Natasha, wedi ceisio niweidio ei hun y diwrnod canlynol ym mhentref cyfagos Pontycymer.
Mae'r heddlu yn ymchwilio i weld a oedd y merched wedi cysylltu â'i gilydd ar y we neu drwy e-bost.
Fel rhan o'r ymchwiliad mae'r heddlu yn archwilio cyfrifiadur y ferch 17 oed.
Mae tasglu, sy'n cynnwys yr heddlu a'r gwasanaethau iechyd, wedi ei sefydlu yn yr ardal i geisio atal y nifer uchel o hunanladdiadau ymhlith pobl ifanc yno.
Dywed yr heddlu eu bod wedi siarad gyda nifer o bobl ifanc a rhieni a gofyn iddyn nhw fod ar eu gwyliadwriaeth.
Mae'r grŵp ffocws neu dasglu hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr o Ymddiriedolaeth Bro Morgannwg, ysgolion lleol a Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr.
Safleoedd sgwrsio
Dywedodd yr Uwch Arolygydd Tim Jones o Heddlu'r De eu bod nhw'n ymchwilio i amgylchiadau marwolaeth Natasha.
"Mae'n bwysig nodi nad ydym ar hyn o bryd wedi cadarnhau fod yna unrhyw gysylltiad rhwng marwolaeth (Natasha) ac ymdrech gan y ferch 15 oed i niweidio ei hun ym Mhontycymer ddydd Gwener.
"Un rhan o'r ymchwiliad i'w archwilio cyfrifiadur y ferch 17 oed.
"Mae unrhyw gyfathrebu rhwng ffrindiau neu bobl sy'n adnabod ei gilydd yn amlwg yn ystyriaeth bwysig o ran yr ymchwiliad."
Dywedodd yr aelod seneddol lleol, Madeleine Moon, ei bod hi'n poeni am y defnydd o safleoedd sgwrsio ar gyfrifiaduron.
Bydd y pwnc yn cael ei godi mewn cyfarfod o'r tasglu ddydd Gwener.
Un o bryderon yr aelod seneddol yw'r hyn a elwir yn "waliau cof" ar safleoedd fel Bebo.
Mae'r rhain yn cael eu defnyddio i adael negeseuon er mwyn cofio am ffrind sydd newydd farw.
"Y peth sy'n fy mhoeni am safleoedd y we ydi'r elfen rithwir - dydi e ddim yn rhan o'r byd go iawn." meddai.
"Rwy'n poeni am ramantiaeth ffals sy'n rhan o'r waliau cof ar Bebo sy'n rhoi syniad rhamantus o hunanladdiad.
"A dydi e ddim yn egluro'r trasiedi enfawr a'r bywydau sy'n cael eu gwastraffu," meddai.