Mae 'na ganran uchel o siaradwyr Cymraeg yng Ngheredigion
|
Cafodd cynghorwyr yng Ngheredigion eu beirniadu am ganiatáu ceisiadau cynllunio gan siaradwyr Cymraeg er bod argymhelliad i'w gwrthod.
Daw'r sylw ar ôl i gynghorwyr ganiatáu tri chais yn erbyn barn swyddogion gafodd ei wrthod yn ddiweddarach gan Lywodraeth y Cynulliad.
Dywedodd archwilydd cynllunio'r llywodraeth bod hyn yn "gwahaniaethu" ar sail iaith.
Ond dywedodd un aelod o'r pwyllgor cynllunio eu bod yn ceisio gwarchod cymunedau.
Daeth hyn i'r golwg ar ôl i Lywodraeth y Cynulliad edrych ar un o'r tri chais.
Mewn adroddiad wedyn dywedodd archwilydd cynllunio'r llywodraeth, Ian Osborne, y byddai'n "gwahaniaethu" i ganiatáu cais cynllunio yn unig ar sail bod yr un oedd yn gwneud y cais yn siaradwr Cymraeg.
Colli grym
"Tra bod rhaid i'r system gynllunio ystyried anghenion a buddiannau'r iaith Gymraeg, dydi'r ffaith bod yr un sy'n gwneud y cais yn berson lleol, yn siaradwr Cymraeg ac yn weithgar yn y gymuned, ddim yn gorbwyso'r niwed amgylcheddol," meddai.
"Mae'n gwahaniaethu os ydi'r cais yn cael ei ganiatáu yn unig ar y sail bod yr un sy'n cyflwyno'r cais yn siaradwr Cymraeg."
Mae uwch swyddog cynllunio Cyngor Ceredigion, Aled Richards, wedi rhybuddio'r pwyllgor cynllunio y gallai golli pŵer petai'n parhau i dorri rheolau.
"Rhaid derbyn hyn fel mater difrifol iawn," ychwanegodd.
"Be sy'n digwydd drosodd a throsodd ydi ei fod yn cyfeirio at y ffaith bod y person sy'n cyflwyno'r cais yn siaradwr Cymraeg lleol.
"Rhaid edrych ar y cais, nid ar yr ymgeisydd."
Dywedodd y Cynghorydd Lyndon Lloyd, sy'n aelod o'r pwyllgor, ei fod yn anghytuno gyda sylw Mr Osborne.
"Mae 'na weinidogion yn y llywodraeth yn dweud y dylai'r polisïau mewn ardaloedd gwledig ddibynnu ar ddoethineb positif ac yna rydym yn derbyn sylwadau rhywun fel Mr Osborne.
"Yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud ydi gwarchod ein pobl ifanc a'n cymunedau.
"Mae 'na ddiffyg ymwybyddiaeth am hyn yng Nghaerdydd yn swyddfeydd y cynulliad."
Deddf Eiddo
Mae ei sylwadau yn cael cefnogaeth Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Dywedodd Angharad Clwyd, cadeirydd grŵp Ceredigion, eu bod nhw'n cefnogi penderfyniad y cynghorwyr i gefnogi pobl leol.
"Rydym yn cefnogi penderfyniad Cyngor Sir Ceredigion i edrych ar anghenion pobl leol a'r iaith Gymraeg wrth ystyried cynllunio.
"Mae Cymdeithas yn credu y dylai pobl leol gael blaenoriaeth ac rydym yn galw am ddeddf eiddo a fyddai'n sicrhau diogelwch ein cymunedau."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru na allai Jane Davidson, y gweinidog sydd â chyfrifoldeb am faterion cynllunio, wneud sylw ar unrhyw achos unigol.
'Holistaidd'
Yn y cyfamser, mae aelod o Gyngor Gwynedd yn dweud bod yr arolygiaeth cynllunio yng Nghymru ddim yn deall anghenion ardaloedd gwledig.
Mae Dafydd Iwan, sydd hefyd yn llywydd Plaid Cymru, yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i sefydlu trefn gynllunio newydd i Gymru.
Dywedodd Mr Iwan: "Yr enghraifft fwyaf graffig yw bod yr arolygiaeth yn gwrthod y cysyniad o bentrefi gwledig...
"Yn hytrach na thynnu llinellau ar fap, mae angen dulliau mwy holistaidd. Mae'r cynllun gofodol yn dechrau mynd i'r cyfeiriad hwnnw".