Byddai'r morglawdd yn ymestyn o Drwyn Larnog i Bwynt Brean
|
Cafodd manylion astudiaeth i ymarferoldeb cynlluniau i adeiladu morglawdd ar draws aber Afon Hafren, a allai gyflenwi 5% o drydan Prydain, eu datgelu.
Bydd yr astudiaeth yn edrych ar effeithiau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd yr holl gynlluniau.
Gallai'r morglawdd ymestyn o arfordir De Cymru i Weston-super-Mare.
Y morglawdd fyddai'r mwyaf o'i fath yn y byd.
Mae disgwyl i'r astudiaeth gymryd ddwy flynedd i'w chwblhau ac fe fydd yn diweddu gydag ymgynghoriad cyhoeddus llawn yn 2010.
Wrth gyhoeddi manylion yr astudiaeth, dywedodd Ysgrifennydd Busnes San Steffan John Hutton, bod maint y cynllun, a'r effaith y gallai gael ar sicrhau cyflenwad ynni, yn "anferth."
Dywedodd Jane Davidson, y gweinidog dros yr amgylchedd, cynaliadwyedd a thai bod newid yn yr hinsawdd yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth y Cynulliad a bod un o'r ffyrdd o leihau nwyon tŷ gwydr fyddai cynhyrchu mwy o drydan drwy ffynonellau adnewyddol fel ynni'r llanw yn aber Afon Hafren.
Pryder
Bydd yr astudiaeth yn asesu costau a goblygiadau defnyddio ynni'r llanw yn yr aber ac yn argymell un prosiect penodol.
Ond mae rhai amgylcheddwyr yn poeni am effaith y cynllun ar fywyd gwyllt.
Yn ôl y Gymdeithas Frenhinol Gwarchod Adar, yr RSPB, fe fydd y morglawdd yn peryglu miloedd o adar a physgod.
Dywedodd Ms Davidson y byddai'r astudiaeth yn ystyried pwysigrwydd amgylcheddol yr aber.