Bydd 29 o swyddfeydd yn cau yn y cymoedd, Caerdydd a Bro Morgannwg
|
Mae Swyddfa'r Post wedi cadarnhau y bydd 29 o swyddfeydd yng Nghaerdydd a chymoedd Morgannwg yn cau.
Ond yn dilyn cyfnod o ymgynghori, fe fydd dwy swyddfa yn yr ardal yn parhau yn agored.
Mae cymunedau mewn sawl rhan o Gaerdydd, Bro Morgannwg a'r cymoedd wedi bod yn cynnal ymgyrchoedd i geisio cadw'u swyddfa bost leol ar agor.
Y disgwyl yw i'r broses o gau'r swyddfeydd ddechrau fis nesa gyda'r olaf yn cau erbyn 2009.
Ymhlith y 29 sydd i gau, mae swyddfeydd yn ardaloedd Rhymni, Treorci, Blaenclydach, Aberpennar, Pontypridd, Llantrisant, Penybont, Merthyr a Phenarth.
Fe fydd pump o swyddfeydd post Caerdydd yn cau hefyd - gan gynnwys cangen Ystum Taf.
Mae swyddfa'r post hefyd yn dechrau ar gyfnod o ymgynghori ar gau un gangen ychwanegol ym Mherthcelyn yn ardal Aberpennar.
Swyddfeydd ar Heol Sblot yng Nghaerdydd ac un arall ar Stryd Fawr Y Barri sydd wedi perswadio Swyddfa'r Post i ailfeddwl.
Dywed Swyddfa'r Post y byddai rhwydwaith o 153 o ganghennau yn parhau ar agor ar draws yr ardal, ac ni fydd dros 99.7% o'r boblogaeth yn gweld unrhyw newid, neu fe fyddan nhw'n dal i fod o fewn milltir i gangen arall.