BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 21 Ionawr 2008, 18:44 GMT
Help i gynnal busnes yn Gymraeg
Caernarfon
Mae Caernarfon yn un o'r dair tref sy'n rhan o'r ymgyrch

Bydd busnesau yn y Bala, Caernarfon a Phwllheli yn cael cymorth i ddefnyddio rhagor o'r Gymraeg.

Mae partneriaid Grŵp Hyrwyddo Iaith Gwynedd yn uno mewn ymgyrch i gynyddu defnydd o'r iaith mewn busnes o ddydd i dydd yn y dair tref.

Mae ymchwil eisoes yn dangos bod cwsmeriaid Cymraeg eu hiaith yn disgwyl fwy a mwy i allu derbyn gwasanaeth, neu brynu a gwerthu, drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bwriad y cynllun newydd felly yw galluogi rhagor o fusnesau i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael i ddarparu eu gwasanaethau yn ddwyieithog ac i annog cwsmeriaid a defnyddwyr i ofyn am eu gwasanaethau yn lleol yn y Gymraeg.

'Budd masnachol'

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Iwan, uwch-arweinydd portffolio datblygu Cyngor Gwynedd: "Mae nifer fawr o gwmnïau yn defnyddio'r Gymraeg yn barod, ac yn gweld budd masnachol o wneud hynny.

"Ond mae llawer mwy fyddai'n dymuno defnyddio rhagor o'r iaith er lles eu busnes a'u cwsmeriaid.

"Y gobaith yw y bydd yr ymgyrch yn rhoi help iddyn nhw wneud hynny ac i roi gwybod i fusnesau yn yr ardaloedd yma bod grantiau ac amrywiol gynlluniau ar gael i'w galluogi i ddarparu mwy o wasanaethau i'w cwsmeriaid yn y Gymraeg."

Mae Grŵp Hyrwyddo Iaith Gwynedd am bwysleisio bod y cymorth ar gael i unrhyw fusnes yn y dair tref. Y nod yw i ddod i gysylltiad â busnesau dros y tri mis nesaf a'u cynorthwyo i gymryd nifer o gamau bychain i roi'r Gymraeg wrth galon eu busnes.

Dylai busnesau sydd am fanteisio ar y gefnogaeth yma gysylltu â Debbie Williams as 01286 679 452 neu DebbieAnneWilliams@gwynedd.gov.uk

HEFYD
Rhodri yn cwrdd â'i gymheiriaid
19 Ion 08 |  Newyddion
Papur: 'Penderfynwch yn fuan'
13 Ion 08 |  Newyddion
Llysoedd: Trefn iaith ar waith
11 Ion 08 |  Newyddion


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^