BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 21 Ionawr 2008, 10:12 GMT
Dymchwel murlun Siartwyr
Murlun y Siartwyr yng Nghasnewydd
Fe fydd y murlun yma yn diflannu a murlun newydd rhywle yn y ddinas

Fe fydd murlun sy'n cofnodi digwyddiad pwysig yn hanes Casnewydd yn cael ei ddymchwel.

Fel rhan o gynllun gwerth 200 miliwn i adnewyddu'r ddinas fe fydd y murlun, sy'n portreadu hanes y Siartwyr, yn diflannu o Sgwr John Frost.

Mae'r gwaith gwreiddiol yn 120 troedfedd o hyd ac mae'n cynnwys 200,000 o ddarnau o deils.

Cafodd y murlun ei osod yn y ddinas yn 1978 er mwyn cofnodi hanes y Siartwyr yno.

Ar ddiwedd y 19fed ganrif roedd 'na brotestio ar draws Prydain.

Yn 1839 daeth ymgyrch y Siartwyr i Gasnewydd.

Nod y Siartwyr oedd cael hawliau cyfartal i'r werin bobl.

Mewn siarter chwe phwynt roedden nhw'n galw am newidiadau radical i'r llywodraeth, gan gynnwys pleidlais i'r dosbarth gweithiol.

"Beth mae'n ddangos yw ymosodiad ar Westy'r Westgate yng Nghasnewydd," meddai Ray Howell, hanesydd.

Murlun y Siartwyr yng Nghasnewydd
Mae 'na dros 200,000 o ddarnau yn y murlun 120 troedfedd yma

"Roedd yn rhywbeth pwysig iawn yn hanes y Siartwyr.

"Fe wnaethon nhw ymosod heb wybod bod milwyr yn y gwesty ac fe wnaeth y milwyr saethu cyn i'r Siartwyr saethu yn l.

"Cafodd nifer o bobl eu lladd a'u hanafu."

Cafodd dros 20 o bobl eu lladd y tu allan i westy yn y ddinas mewn brwydr oedd yn ganolog i ymgyrch y Siartwyr.

Mae'r gwesty wedi cau erbyn hyn ond mae'n symbol arall o bwysigrwydd y mudiad i'r ddinas.

Amgueddfa

Yn l cyngor y ddinas fe fydd symud y murlun gwreiddiol i safle arall yn costio 250,000 ac yn broses hir a chymhleth.

Ond mae nifer o bobl leol wedi'u siomi y bydd y murlun yn diflannu.

"I mi mae hyn yn siomedig iawn i'w golli," ychwanegodd Dr Howell.

"Fe fyddwn i'n ceisio cadw rhywfaint ohono a'i symud i amgueddfa."

Mae Oliver Budd, mab yr artist gwreiddiol, wedi cael ei gomisiynu i greu murlun newydd.

Ond dydi hi ddim yn glir eto lle bydd hwnnw'n cael ei leoli.



HEFYD
Pwy sy'n perthyn i'r Siartwyr?
30 Ebr 07 |  Newyddion
Cofeb i arweinydd Siartwyr
09 Tach 05 |  Newyddion
Enwi pont ar l y Siartwyr
20 Hyd 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^