Doedd gan y patholegydd ddim rhai o'r cymwysterau angenrheidiol
|
Mae wedi dod i'r amlwg bod dau glaf wedi marw ar ôl i ysbyty roi gwybodaeth anghywir profion canser i dri chlaf arall.
Ond mae Ysbyty Wrecsam Maelor wedi dweud na fyddai triniaeth y ddau'n wahanol pe baen nhw nhw wedi cael y canlyniadau cywir.
Ar ôl i anghysonderau ddod i'r fei ym mis Medi mae'r ysbyty yn adolygu profion yr oedd patholegydd wedi eu cynnal yno.
Mae Ymddiriedolaeth Iechyd Gogledd Ddwyrain Cymru wedi cadarnhau'r marwolaethau ond ddim wedi dweud beth oedd yr achos.
Daeth i'r amlwg ddydd Iau nad oedd gan y patholegydd, Dr Roger Williams, rai o'r cymwysterau angenrheidiol i gynnal y profion.
Amrywiaeth o brofion
Roedd yr ysbyty wedi dweud bod tri chlaf wedi cael gwybod gan Dr Williams bod eu profion yn glir pan y dylen nhw fod wedi cael profion pellach am ganser.
Mewn datganiad dywedodd yr ymddiriedolaeth mewn cysylltiad â'r marwolaethau: "O ganlyniad i adolygu sampl o 10% o brofion rydyn ni wedi canfod 12 claf oedd wedi cael yr wybodaeth anghywir.
"Yn ystod y broses rydyn ni wedi canfod bod dau glaf wedi marw.
"Yn y ddau achos roedd y sampl histopatholegol yn rhan o broses diagnosis ehangach a oedd yn cynnwys archwiliad symptomau clinigol, canlyniadau sgan a phelydr-X, archwiliad gweledol gan ddefnyddio endosgopi, profion eraill a phrofion gwaed.
"Rydyn ni wedi adolygu'r ddau achos yn ofalus ac mae'n glir bod y canlyniadau eraill wedi arwain y tîm clinigol at y driniaeth gywir ac nad oedd 'na oedi yn y driniaeth."
Roedd y camgymeriadau yn ymwneud â phrofion meinwe a wnaed gan y patholegydd rhwng mis Ebrill 2006 a mis Medi 2007.
Cadarnhaodd Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Iechyd Gogledd Ddwyrain Cymru nad oedd gan Dr Williams rai o'r cymwysterau angenrheidiol.
Dywedodd Mary Burrows bod Dr Williams yn gymwys mewn rhai meysydd ond nid mewn achosion eraill fel canser y fron.
Llinell gymorth
"Dwi wedi gofyn, fel rhan o'r ymchwiliad gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, am edrych ar y system cymwysterau yng Nghymru ...
Llywodraeth y Cynulliad fydd yn bwrw golwg ar gymwysterau patholegwyr Cymru.
Dywedodd yr ymddiriedolaeth fod y profion yn ymwneud â sawl clefyd nid canser yn unig.
Mae Dr Williams, oedd yn gweithio fel locum yn yr ysbyty ar ôl ymddeol dair blynedd yn ôl fel cyfarwyddwr meddygol yr ymddiriedolaeth, wedi dweud ei fod yn "wirioneddol ddrwg ganddo am yr hyn wedi digwydd ac am unrhyw ofid i gleifion".
Eisoes mae mwy na 200 o bobl gafodd driniaeth ganddo wedi cysylltu â llinell gymorth.
Mae achosion 72 o'r rhain yn cael eu hadolygu ac mae'r ymddiriedolaeth wedi cysylltu â 15.
Dywedodd yr ymddiriedolaeth y dylai unrhyw oedd yn poeni am eu canlyniadau gysylltu â'r llinell ffôn neu'r wefan.
Mae modd ffonio'r ysbyty ar y llinell gymorth, 01978 726 155 rhwng 8am ac 8pm neu ddarllen y wefan www.wrexhamhelpline.org.uk