Dydi'r patholegydd ddim yn gweithio yn yr ysbyty bellach
|
Mae staff ysbyty yn ceisio cysylltu â chleifion gafodd brofion gan batholegydd.
Dywedodd Ysbyty Wrecsam Maelor fod tri chlaf wedi cael gwybod nad oedd 'na ddim i boeni amdano er bod profion meinwe yn amheus neu'n dangos arwyddion o ganser.
Yn ôl rheolwyr yr ysbyty, gallai fod "gwybodaeth anghywir" am 12 achos arall.
Dylai cleifion sy'n poeni am ganlyniadau profion rhwng mis Ebrill 2006 a mis Medi 2007 ffonio'r ysbyty ar 01978 726 155.
Dywedodd Ymddiriedolaeth Iechyd Gogledd Ddwyrain Cymru bod camgymeriadau wedi dod i'r amlwg o fewn "ychydig" o adroddiadau profion adran histopatholeg yr ysbyty.
Roedd y camgymeriadau, meddai, yn ymwneud â phrofion meinwe gan y patholegydd rhwng mis Ebrill 2006 a mis Medi 2007.
Adolygiad clinigol
Y patholegydd oedd Dr Roger Williams, cyn gyfarwyddwr meddygol yr ymddiriedolaeth, sy'n "poeni'n fawr iawn" am yr hyn sydd wedi digwydd.
Roedd y dyn "oedd yn cael ei barchu" wedi bod yn locum yn yr ysbyty ers ei ymddeoliad o'i swydd fel cyfarwyddwr dair blynedd yn ôl.
Gadawodd ei swydd yn fuan ar ôl i'r problemau ddod yn amlwg ym mis Medi 2007.
Daeth y camgymeriadau'n amlwg ar ôl i system ailtsiecio newydd gael gael ei chyflwyno ym mis Mai.
Mewn datganiad dywedodd yr ymddiriedolaeth: "Roedd y camgymeriadau yn achos tri chlaf oedd wedi cael gwybod nad oedd lle i boeni.
"Mae pob un o'r cleifion yn cael triniaeth, lle mae'n addas.
"Ar ôl canllawiau Coleg Brenhinol y Patholegwyr mae'r ymddiriedolaeth wedi cychwyn adolygiad clinigol annibynnol i sampl o waith gafodd ei wneud gan y patholegydd yn ystod y 18 mis.
"Er nad yw'r adolygiad wedi gorffen, mae wedi dod yn glir... gallai fod gwybodaeth anghywir am 12 achos arall."
Mae'r ymddiriedolaeth yn ymchwilio i bob prawf ar y meinwe wnaed gan y patholegydd yn ystod y cyfnod dan sylw.
Fe fyddan nhw'n adolygu 10% o brofion wnaeth y patholegydd ers mis Medi 2004.
Mae'r ymddiriedolaeth wedi dweud nad oedd y profion yn brofion gwaed, prawf ceg y groth, profion troeth, swab na phelydr-X.
Ymateb sydyn
"Mae gofal ein cleifion yn brif flaenoriaeth i ni ac rydym wedi ymateb mor fuan â phosib ...," ychwanegodd y llefarydd.
"Er ein bod yn cydnabod y gallai'r datganiad i'r wasg achosi pryder a phoen meddwl i gleifion, rydyn ni am sicrhau cleifion ein bod ni'n gwneud ein gorau i ymchwilio pob achos a chysylltu ag unrhyw glaf cyn gynted â phosib."
Dywedodd AC Wrecsam, Lesley Griffiths, fod hwn yn gyfnod anodd i gleifion a bod yr hyn oedd wedi digwydd yn "annodweddiadol".
"Mae'r ymddiriedolaeth wedi ymateb yn sydyn iawn, chware teg ...
"Fe fyddwn i'n annog unrhyw un sy'n poeni i ffonio'r llinell gymorth.
"Dwi eisoes wedi cael cyfarfod gyda'r Gweinidog Iechyd i gael sicrwydd a dwi hefyd wedi trafod gyda chadeirydd yr ymddiriedolaeth."
Mae modd ffonio'r ysbyty ar y llinell gymorth, 01978 726 155 rhwng 8am ac 8pm neu ddarllen y wefan www.wrexhamhelpline.org.uk