Mae'r cyngor am glywed barn y gymuned
|
Mae Cyngor Sir Conwy wedi dechrau trafodaethau am ad-drefnu addysg gynradd.
Nos Lun cynhaliodd swyddogion addysg y cyngor eu cyfarfod cyhoeddus cynta i egluro i rieni a llywodraethwyr pam fod angen newid y drefn bresennol.
Daeth rhyw 30 o bobol i ysgol gynradd Glan Conwy i glywed be oedd gan swyddogion y cyngor i'w ddweud.
Dywedodd pennaeth adran addysg y sir, Geraint James, wrth y BBC: "Dwi'n gobeithio o'r broses hon y bydd pobl yn gweld bod rhywbeth i elwa o'r newid.
"Ry' ni gyd yn gwybod y bydd protestiadau, ond rydym yn gobeithio y bydd pobl yn gweld, er mwyn ein plant a phlant ein plant, ei fod yn well i fuddsoddi yn ein hysgolion".
Fe fydd nifer o gyfarfodydd yn cael eu cynnal i gasglu barn pobl ar y sefyllfa bresennol.
1,800
Ar hyn o bryd mae 'na bron i 1,800 o lefydd gwag.
Ond mi fydd y ffigwr yma yn cynyddu i bron i 3,000 ymhen pedair blynedd.
Dywed Cyngor Conwy fod newid yn anorfod.
Ymhen pedair blynedd fe fydd 16 o ysgolion cynradd y sir yn hanner gwag.
Ac mewn nifer o ysgolion eraill fe fydd 'na nifer o seddi gwag.
Mae'r gost o gynnal ysgolion cynradd yn amrywio o £2,600 y disgybl mewn un ysgol i bron i £7,000 mewn ysgol arall.
Caiff saith o gyfarfodydd cyhoeddus eu cynnal cyn diwedd y mis ar draws y sir er mwyn rhoi cyfle i rieni ac eraill gael lleisio barn.