BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sul, 13 Ionawr 2008, 17:05 GMT
Papur: 'Penderfynwch yn fuan'
Y Byd
Roedd y rhifyn cyntaf i fod ar Fawrth 3, 2008
Does dim digon o dystiolaeth y bydd papur dyddiol Cymraeg yn llwyddo, yn ôl arolwg ar ran Llywodraeth y Cynulliad.

Ond mae'r arolwg, sy o blaid sefydlu papur neu wasanaeth ar-lein dyddiol, yn dweud bod angen penderfynu a ddylid cefnogi menter o'r fath gydag arian cyhoeddus.

Mae cefnogwyr papur newydd Y Byd wedi dweud wrth yr arolwg y bydd y fenter yn methu "os na fydd penderfyniad buan".

Os yw'r fenter yn fethiant, bydd yn ergyd drom i'r wasg Gymraeg, medd yr arolwg.

Mae casgliadau'r arolwg wedi cael eu hanfon i 'r Gweinidog Treftadaeth Rhodri Glyn Thomas.

Mr Thomas ofynnodd i Fwrdd yr Iaith gynnal yr arolwg ddechrau Awst 2007.

£800,000

Cwmni Dyddiol oedd wedi penderfynu ceisio sefydlu papur dyddiol Cymraeg.

Y bwriad gwreiddiol oedd cyhoeddi'r rhifyn cyntaf ar Fawrth 3, 2008.

Cafodd hyn ei ohirio.

Mae arolwg y Dr Tony Bianchi wedi bwrw amheuaeth ar dybiaeth Y Byd y bydd pobl yn fodlon prynu dau bapur dyddiol, un Cymraeg ac un Saesneg.

Ac mae wedi dweud nad oes yna dystiolaeth i gefnogi hynny a bod gwerthiant papurau dyddiol yn gostwng.

Roedd Y Byd wedi dweud eu bod yn disgwyl codi rhwng 70c a £1.20c y rhifyn ac yn anelu at werthu o leia 7,000.

Bydd y fenter angen codi £800,000 o arian hysbysebu ac mae'r Byd am i Lywodraeth y Cynulliad roi grant rhwng £600,000 a £1 miliwn yn y flwyddyn gynta.

700

Yn haf 2007 cyhoeddodd y cwmni eu bod yn anelu at 5,000 o danysgrifwyr.

Yn Nhachwedd cadarnhaodd cadeirydd y cwmni, Ned Thomas, mai 700 oedd wedi tanysgrifio "hyd yma".

Mae cwmni Dyddiol wedi dweud eu bod yn ffyddiog y bydd papur Y Byd yn cael ei gyhoeddi cyn diwedd 2008.

Yn y cyfamser, mae perchnogion cylchgrawn Golwg wedi dweud eu bod yn gobeithio cael arian gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu safle newyddion dyddiol ar y we.

Rhwng 3,000 a 3,500 yw cylchrediad y cylchgrawn wythnosol.



HEFYD
Papur dyddiol gam yn nes
22 Ion 07 |  Newyddion
Enwi golygydd Y Byd
28 Tach 06 |  Newyddion
Swyddi: Y Byd yn ei le?
19 Meh 06 |  Newyddion
Swydd newydd ar ôl teithio'r byd
18 Maw 05 |  Newyddion
'Amheuon' am bapur newydd Cymraeg
29 Medi 04 |  Newyddion
Papur dyddiol 'mewn blwyddyn'
22 Ion 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^