BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 12 Ionawr 2008, 16:27 GMT
Cau siop gynta yng Nghymru
Siop Laura Ashley yn Llanidloes
Mae'r siop wedi bod yn Llanidloes ers 1976

Mae'r siop gyntaf gafodd ei agor gan gwmni ffasiwn Laura Ashley yng Nghymru wedi cau ei drysau am y tro olaf ddydd Sadwrn.

Fe agorodd y siop yn Llanidloes, ger cyn-bencadlys y cwmni yng Ngharno, yn 1976 ar ôl i'r cynllunydd a'i gŵr symud o Gaint i Bowys.

Disgrifiodd Maer Llanidloes, David Jones, hyn fel "ergyd ddifrifol" gan ddweud bod economi'r dref eisoes yn "fregus".

Dywedodd cwmni Laura Ashley bod y penderfyniad wedi bod yn un anodd.

Fe geisiodd cynghorwyr yn y dref, Cyngor Powys a'r AC ac AS lleol berswadio'r cwmni i ail feddwl.

Ond dywedodd y cwmni bod y siop bellach yn rhy fach ar gyfer yr amrywiaeth o gynnych sydd ganddyn nhw.

Gwerthiant

"Dyma ergyd ddifrifol ar economi bregus," meddai Mr Jones.

"Mae pobl sy'n teithio o'r gogledd i'r de yn cael seibiant yn y daith drwy ymweld â siop Laura Ashley ac yna yn gwario arian mewn siopau eraill."

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni bod gwerthiant y siop yn Llanidloes wedi cael ei effeithio oherwydd bod siopau eraill wedi agor yng Nghymru.

"Roedd y penderfyniad i gau'r siop yn Llanidloes pan ddaeth y brydles i ben yn un anodd o ystyried hanes y siop a chysylltiad agos Laura Ashley gyda Chymru," meddai.

"Ond, fel gyda phob penderfyniad, rydym wedi gwneud yr hyn sydd orau er budd y cwmni , y gweithwyr a'r cyfranddalwyr."



HEFYD
'Dylai Laura Ashley ailfeddwl'
28 Rhag 07 |  Newyddion
Siop gynta Laura Ashley i gau
23 Rhag 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^