BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 11 Ionawr 2008, 13:31 GMT
Pont 'am gael statws bydeang'
Pont ddŵr Pontcysyllte
Fe agorodd pont ddŵr Pontcysyllte yn 1805

Gallai pont a chamlas hanesyddol ger Llangollen gael yr un statws 'r Taj Mahal, Wal Fawr China a thirlun diwydiannol Blaenafon.

Pont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte yw enwebiad Prydain eleni i fod yn Safle Treftadaeth y Byd.

Yr Ysgrifennydd Diwylliant James Purnell gynigiodd "y gampwaith o oes y gamlas".

Fe fydd Unesco yn penderfynu'n derfynol ym mis Gorffennaf 2009.

Gwarchod

Y llynedd arwyddodd partneriaethau gytundeb i warchod a rheoli'r safle hanesyddol.

Y rhai arwyddodd oedd Cyngor Bwrdeistref Wrecsam, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref Croesoswallt, Cyngor Sir Amwythig, Dyfrffyrdd Prydain, Comisiwn Brenhinol Hebion Cymru, Treftadaeth Lloegr a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Y peiriannydd Thomas Telford gododd y bont ddŵr a agorodd ar Dachwedd 26, 1805, yr un flwyddyn ag yr enillodd Nelson Frwydr Trafalgar.

Mae'r bont ddŵr, sy'n 1,000 troedfedd o hyd ac yn cludo camlas Llangollen dros Ddyffryn Dyfrdwy, yn un o'r prif atyniadau i ymwelwyr yr ardal.

Hon yw'r bont ddŵr fwyaf ym Mhrydain ac mae dros 10,000 o gychod a 25,000 o gerddwyr yn ei defnyddio bob blwyddyn.



HEFYD
Cynhadledd yn 'hwb i statws pont'
13 Meh 07 |  Newyddion
Pont: Cais am statws byd-eang
16 Tach 05 |  Newyddion
Gam yn nes at statws byd
28 Gorff 05 |  Newyddion
Ailagor pont ddŵr hyna'r byd
13 Maw 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^