BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 10 Ionawr 2008, 17:04 GMT
'Taith iaith' Rhodri Morgan
Rhodri Morgan
Fe fydd y daith iaith yn ymweld â gorllewin Cymru

Mae'r Prif Weinidog Rhodri Morgan yn mynd ar daith drwy rannau o orllewin Cymru er mwyn ymweld â phrosiectau cymunedol, busnesau a phobl leol.

Pwrpas y 'daith iaith' fydd hyrwyddo'r gwaith mae Llafur Cymru wedi ei wneud mewn llywodraeth er mwyn datblygu'r Gymraeg ac ardaloedd lle mae'r Gymraeg ar ei chryfaf.

Dywedodd Mr Morgan, Arweinydd Llafur yn y Cynulliad: "Rwy'n mynd ar daith dros ddau ddiwrnod i'r ardaloedd mwyaf Cymreig er mwyn hyrwyddo'r pwysigrwydd o fuddsoddi i greu cymunedau cryf wneith barhau a datblygu i'r dyfodol.

"Bydd hyn yn sicrhau dyfodol disglair i'r iaith Gymraeg."

Fe fydd y daith yn ymweld â Chaerfyrddin, Aberystwyth, Ynys Môn, Caernarfon a Bangor.

Bydd Mr Morgan yn cyfarfod â phrosiectau cymunedol, busnesau a chyrff cyhoeddus sydd wedi derbyn arian gan Lywodraeth y Cynulliad.

"Byddaf yn ymuno â gwleidyddion Llafur Cymru sydd yn cefnogi'r iaith yn eu cymunedau," ychwanegodd.

"Byddaf yn gwrando ar bryderon pobl ac ar eu gobeithion ar gyfer eu teuluoedd a'u cymunedau."

Addasu Delwedd

Ar ôl Etholiadau'r Cynulliad ym mis Mai 2007 fe feirniadwyd perfformiad Llafur mewn dogfen gan y blaid.

Roedd y ddogfen yn dweud bod angen i Lafur addasu ei delwedd a'i negeseuon er mwyn ymateb i newidiadau cymdeithasol yng Nghymru.

Roedd yr adroddiad, a luniwyd gan aelodau gweithgor y blaid, yn bryderus bod y blaid yn colli tir mewn ardaloedd Cymraeg eu hiaith ac yng nghefn gwlad.

Mae'n debyg bod y 'daith iaith' yn ymateb i'r adroddiad ac yn ymdrech gan Llafur Cymru i ennill tir yn yr ardaloedd hyn.

Ychwanegodd Mr Morgan: "Trwy gydol hanes diweddar Cymru, Llafur Cymru sydd wedi gwneud y gwaith caib a rhaw, yn fwy nac unrhyw blaid arall, er mwyn amddiffyn a datblygu'r iaith a'i hardaloedd.

"Llafur sydd hefyd wedi gweithredu datganoli."

Fe wnaeth Adam Price AS Plaid Cymru groesawu'r ymweliad â gorllewin Cymru.

Ond dywed AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr bod y gefnogaeth i'r Blaid Lafur wedi "erydu" eisoes.

"Mae cenedlaethau o bobl ifanc nawr wedi cael eu denu i Blaid Cymru.

"Mae'r Blaid Lafur wedi sylweddoli yn rhy hwyr eu bod nhw wedi esgeuluso'r Gymru Gymraeg a'r Gymru wledig fel ei gilydd.

"Dydy pobl ddim yn mynd i anghofio hynny oherwydd un ymweliad".



HEFYD
Llafur Cymru: 'Rhaid newid'
28 Medi 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^