Roedd 'na wrthwynebiad i gau'r farchnad yn Y Fenni
|
Cafodd y cynlluniau i symud yr unig farchnad da byw yn Sir Fynwy i safle newydd 10 milltir i ffwr eu cymeradwyo.
Fe fydd marchnad newydd yn cael ei adeiladu ym Mryngwyn, Rhaglan, gan ddisodli'r farchnad sydd wedi bodoli yng nghanol tref Y Fenni.
Cyngor Sir Fynwy wnaeth y penderfyniad ddydd Mawrth.
Dywedodd cynghorydd y bydd y cynllun yn gam tuag at gynnig marchnad "21ain Ganrif" i ffermwyr y sir.
Roedd ymgyrchwyr wedi gwrthod gwerthu'r hen farchnad ar gyfer datblygiad i gyfrannu £5 miliwn a chostau tuag at y farchnad newydd.
Diogelwch
"Fe fydd hyn yn caniatįu i'r cynlluniau i adfywio tref Y Fenni fynd yn eu blaen, lle'r oedd yr hen farchnad," meddai'r Cynghorydd Bob Greenland, aelod ar y cabinet dros wasanaethau adfywio a chadeirydd Cynllun Adfywio'r Fenni.
Ym mis Mehefin cafodd cyfarfod cyhoeddus ei gynnal yn Llanarth wrth i bentrefwyr brotestio yn erbyn cynlluniau i symud y farchnad i Fryngwyn.
Roedden nhw'n gwrthwynebu ar sail diogelwch gan fod 'na achosion o fotwliaeth gerllaw sawl blwyddyn yn ōl.
Ar y pryd dywedodd Cyngor Sir Fynwy y byddan nhw'n sicrhau nad oedd 'na ofid diogelwch.
Roedd safle Bryngwyn, tua milltir a hanner o Raglan, yn un o dri safle posib ar gyfer y farchnad.
Y ddau arall oedd Fferm Little Castle ger Castell Rhaglan a Fferm Westgate yn Llan-ffwyst.