BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 8 Ionawr 2008, 17:01 GMT
Gwersyll Deepcut i gau
Y pedwar milwr a fu farw yn Deepcut (top ch-d Sean Benton, James Collinson, Gwaelod ch-d Cheryl James a Geoff Gray)
Bu farw'r pedwar milwr rhwng 1995 a 2002

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cadarnhau y bydd gwersyll milwrol Deepcut yn Surrey yn cau ymhen pum mlynedd.

Fe fydd y safle'n cael ei werthu wrth i'r Weinyddiaeth adolygu'r ffordd y mae milwyr yn cael eu hyfforddi ym Mhrydain.

Mae tad i filwr o Gymru a fu farw yn y gwersyll, wedi beirniadu'r penderfyniad.

Dywedodd Des James na ddylai'r ganolfan gael ei dymchwel cyn i ymchwiliad cyhoeddus gael ei gynnal i farwolaeth ei ferch Cheryl James, a thri milwr arall.

Bu farw Cheryl oedd yn 18 oed ac yn byw yn Llangollen; Sean Benton, 20 oed, o Hastings, Dwyrain Sussex; James Collinson, 17 oed, o Perth, Yr Alban, a Geoff Gray, 17 oed, o Seaham, Swydd Durham, o anaf gan wn yn y gwersyll hyfforddi mewn achosion unigol rhwng 1995 a 2002.

'Honiadau o gamymddwyn'

Mae'r llywodraeth wedi gwrthod galwadau am ymchwiliad cyhoeddus.

Ym mis Mehefin penderfynodd gweinidogion y dylid creu swydd Comisiynydd Cwynion o ganlyniad i'r marwolaethau yng ngwersyll Deepcut.

Dywedodd Adam Ingram, Gweinidog y Lluoedd Arfog, y byddai'r comisiynydd yn gallu derbyn cwynion yn uniongyrchol oddi wrth aelodau'r lluoedd arfog neu deuluoedd.

Roedd adolygiad wedi casglu fod "cyfres ysgytwol o honiadau o gamymddwyn".



HEFYD
Deepcut: Beirniadu ymchwiliad
04 Tach 05 |  Newyddion
Milwyr ifanc: 'Perygl cam-drin'
21 Maw 05 |  Newyddion
Bwlio: Y Fyddin 'yn methu'
14 Maw 05 |  Newyddion
Deepcut: Ymchwiliad arall
15 Rhag 04 |  Newyddion
Deepcut: Adolygiad annibynnol
30 Tach 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^