Mae'r cynllun yn cynnwys canolfan y Quadrant.
|
Mae dau ddatblygwr wedi cael eu dewis ar gyfer pedwar safle allweddol sy'n rhan o gynllun gwerth £1 biliwn yn Abertawe.
Bydd Hammerson ac Urban Splash yn arwain y gwaith o adfywio ardaloedd manwerthu a glan y môr y ddinas.
Dywed arweinwyr y cyngor mai dyma'r datblygiad pwysicaf yn y ddinas am hanner canrif.
Mae'r cynllun yn cynnwys adfywio canolfannau siopa Dewi Sant a'r Quadrant.
Bydd meysydd parcio yn Stryd Paxton a Neuadd y Sir hefyd yn cael eu hail ddatblygu.
Mae'r apwyntiadau yn dilyn cystadleuaeth lle cafodd datblygwyr gyfle i fynegi eu gweledigaeth ar gyfer y ddinas.
Mae'r cynllun yn cynnwys 600,000 troedfedd sgwâr o ofod manwerthu; 1,000 o dai; cyfleusterau hamdden, swyddfeydd, a gwesty.
Stryd Fawr
Dywedodd arweinydd y cyngor Chris Holley: "Dyma'r datblygiad pwysicaf i'w gyhoeddi yn y ddinas am hanner canrif yn ôl pob tebyg."
Dros y 18 mis nesaf bydd y ddau gwmni yn gweithio gyda'r cyngor a Llywodraeth y Cynulliad i sicrhau'r caniatâd cynllunio angenrheidiol.
Yn y cyfamser mae cynllun adfywio gwerth £22 miliwn ar gyfer Stryd Fawr Abertawe wedi cael ei ddatgelu.
Byddai siopau a thai fforddiadwy yn cael eu hadeiladu rhwng y rheilffordd a Sgwâr y Castell.
Bydd cynlluniau yn cael eu cyhoeddi'r wythnos hon ar gyfer ymgynghoriad fel rhan o broses prynu gorfodol.
Eisoes mae ardal SA1 yn cael ei hailddatblygu ac mae bwriad i droi Bae Abertawe'n ganolfan chwaraeon dŵr.