Daeth y gwaharddiad i rym ar Ebrill 2 2007
|
Cafodd tafarnwr ei ddirwyo £1,000 ar ôl i gwsmeriaid gael eu dal yn diystyru'r gwaharddiad ar ysmygu ac yn tanio sigaréts yn ei dafarn.
Fe wnaeth swyddogion o'r cyngor ymweld â thafarn y Plough Inn yn ardal Treforys o Abertawe ar ôl cwynion gan y cyhoedd.
Clywodd ynadon Abertawe bod pobl wedi cael eu gweld yn ysmygu yn y dafarn ac roedd 'na flychau llwch ar fyrddau.
Plediodd Ian Le Masurier yn euog i drosedd o dan y rheolau sy'n gwahardd ysmygu mewn llefydd cyhoeddus caeedig, gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus.
Clywodd y llys nad oedd o yn y dafarn ar y pryd.
Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad mai dyma'r erlyniad cynta o'i fath yng Nghymru.
Daeth y gwaharddiad ar ysmygu i rym yng Nghymru ym mis Ebrill y llynedd.
Cyngor a gwybodaeth
Dywedodd Cyngor Abertawe bod Le Masurier wedi derbyn sawl rhybudd cyn i'r achos fynd i'r llys.
"Fe wnaeth swyddogion y cyngor ymweld â'r dafarn sawl gwaith ar ôl cwynion am bobl yn ysmygu," meddai Chris Steele o'r cyngor.
"Mae'r swyddogion sy'n sicrhau nad oes 'na bobl yn ysmygu mewn llefydd cyhoeddus wedi treulio amser sylweddol yn hysbysu pobl yn y ddinas am y ddeddf newydd.
"Cafodd y person oedd â chyfrifoldeb am y dafarn gyngor a gwybodaeth am ei gyfrifoldeb."
Mae Cyngor Abertawe wedi cyhoeddi 12 cosb benodol ers i'r gwaharddiad ddod i rym, y mwyafrif yn mynd i weithwyr sy'n gyrru cerbydau gwaith.
"Yn gyffredinol mae'r mwyafrif o fusnesau yn y ddinas wedi derbyn y gwaharddiad ac wedi cyd-fynd â'r gofynion," ychwanegodd Mr Steele.
Gorfodwyd Le Masurier i dalu costau o £75 hefyd.
Dywedodd ei gyfreithiwr nad oedd ganddo wrthwynebiad i'r gwaharddiad ac roedd yn ei gweithredu pan oedd o'n bresennol.
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Rydym yn ymwybodol o ddau awdurdod lleol sydd yn y broses o erlyn ond o'n hystadegau diweddara dyma'r erlyniad cynta i fynd drwy'r system.
"Ein bwriad ydi i gydweithio'n agos gyda busnesau a'r cyhoedd er mwyn cefnogi'r gwaharddiad."