Pan aeth i'r wal roedd y siambr yn cynrychioli 1,400 o fusnesau
|
Mae disgwyl cyfarfod ddydd Iau i drafod y camau nesaf ar ôl i Siambr Fasnach Caerdydd ddod i ben oherwydd trafferthion ariannol.
Roedd y siambr wedi mynd i drafferth wrth geisio ad-dalu arian gafwyd drwy gamgymeriad dair blynedd yn ôl gan ELWa, y corff oedd yn gofalu am addysg ôl-16 oed yng Nghymru.
Un syniad fydd yn cael ei ystyried yw uno siambrau masnach Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd.
Mae Siambr Fasnach Prydain wedi dweud y byddan nhw'n ceisio helpu aelodau'r corff lleol yng Nghaerdydd yn y pen draw.
Dywedodd Steven Madeley, cyfarwyddwr Canolfan Siopau Dewi Sant yng Nghaerdydd, fod gwir angen y siambr.
"Mae angen i ddinas llawn egni fel Caerdydd gael Siambr Fasnach ac mae angen i rywbeth gael ei wneud o fewn wythnosau, " meddai.
Pan aeth i'r wal roedd y siambr yn cynrychioli 1,400 o fusnesau sy'n cyflogi mwy na 150,000 o bobl yn ne Cymru.
Mewn llythyr at yr aelodau, dywedodd llywydd y siambr Paul Gardner fod y penderfyniad "yn drist iawn".
'Gresynu'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad: "Rydyn ni wedi cyd-weithio'n agos â Siambr Fasnach Caerdydd wrth hyrwyddo a chefnogi busnesau yn ne Cymru ac yn gresynu at y trafferthion y mae'r siambr yn eu hwynebu.
"Mae'n anffodus bod rheolwyr presennol y siambr wedi etifeddu dyled, yn bennaf oherwydd gordaliadau am wasanaethau hyfforddi a hawliadau anghyson am daliadau gan gyn-swyddogion y siambr.
"Rydyn ni wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau canlyniad ffafriol, ond mae hyn wedi profi'n amhosibl oherwydd natur a maint y ddyled ac am fod y sefyllfa ariannol yn gwaethygu."