Mae miliynau o bunnoedd wedi eu gwario ar adfer y gamlas
|
Mae busnesau'n gobeithio y bydd cerflun arbennig yn golygu mwy o ymwelwyr.
Bydd cerflun pren o ddyn a'i gi yn cael ei osod ar ran o Gamlas Trefaldwyn.
Mae'r gwaith yn rhan o gynllun £560,000 i ddefnyddio gwaith celf i godi nifer ymwelwyr â'r gamlas i 20,000 y flwyddyn.
Ym mis Hydref cafodd gwaith adfer y gamlas, oedd yn werth miliynau o bunnoedd, ei gwblhau.
Nod y cynllun oedd cysylltu 25 camlas Cymru â'r rhwydwaith yn Lloegr.
Bydd y cerflun, ar ôl cael ei orffen, rhwng Llanymynech a'r Drenewydd.
Yr artist Pippa Taylor o Fachynlleth gafodd ei chomisiynu i gerfio'r cerflun
Mae yna fwy o brosiectau celfyddydol ar y gweill.
Dywedodd swyddog twristiaeth y Gamlas, Chris Smith, y byddai wyth o gerfluniau a nifer o feinciau yn helpu creu llwybr antur ar gyfer ymwelwyr.
"Y gamlas yw un o'r atyniadau mwyaf deniadol ar gyfer hamddena yng Nghymru."