Protestwyr yn dangos 'y byd yn cynhesu' mewn rali yn Bali
|
Mae arweinwyr crefyddol yng Nghymru yn atgoffa pawb i ystyried yr amgylchedd dros y Nadolig.
Wrth fwynhau dathlu geni Crist, meddai'r Parchedig John Owen, Llywydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru, dylai pawb ailgylchu bwyd ac anrhegion nad oedd eu hangen a gwarchod y ddaear.
Dywedodd Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, fod angen cofio bod "pawb yn perthyn i'w gilydd a bod angen anghofio ein gwahaniaethau" dros y Nadolig.
Eisoes mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru wedi codi ymwybyddiaeth am newid yn yr hinsawdd.
Cafodd un o'i haelodau, Syr John Houghton, wobr Heddwch Nobel ar y cyd am ei waith fel Cadeirydd Panel Rhyngwladol Newid yn yr Hinsawdd.
Cerddodd aelod arall, John Rowlands o Gaerdydd, 1,000 o filltiroedd mewn 80 niwrnod ar y Daith Torri Carbon.
Dywedodd Mr Owen, llywydd yr eglwys yn 2007-8, fod pobl y gwledydd sy'n datblygu yn diodde am fod y gorllewin yn pwyso'n drwm ar adnoddau'r byd.
"Roeddwn i'n falch o weld y gwledydd yn derbyn o'r diwedd fod cynhesu bydeang yn ffactor ar ôl blynyddoedd o amheuaeth," meddai wrth ganmol y cytundeb gafodd ei arwyddo yn Bali.
"Ond dydi hyn ddim yn golygu ein bod ni fel unigolion yn gorfod dibynnu ar ein llywodraethau ni i achub y ddaear.
"Yn hytrach, rhaid dyblu'r ymdrechion i ymgyrchu yn erbyn y newid.
"Dros y Nadolig, wrth ganolbwyntio ar ddathlu geni Crist, rhaid cofio ein dyletswydd ni tuag at y ddaear drwy ailgylchu a pheidio â gwastraffu bwyd."
Cyfeillgarwch
Dywedodd y Dr Tudur fod y Nadolig fel Gŵyl Gristnogol yn "fodd i uno pobl o bob math mewn cyfeillgarwch dros y canrifoedd".
Mae'r ymdrech i droi'r Nadolig yn ŵyl seciwlar "er mwyn dod â phobl at ei gilydd" yn syniad hurt, meddai.
"Er mai gŵyl Gristnogol yw'r Nadolig yn y calendr, mae tuedd ynddi i ymledu a chwmpasu pobl eraill - llawer ohonyn nhw heb argyhoeddiad Cristnogol cryf, os o gwbl.
"Gwnawn ni ymdrech i ddangos ein bod ni'n perthyn i'n cymuned wrth i ni a'n cymdogion groesi'r stryd a mynd i gartrefi'n gilydd i dreulio ychydig amser yn sgwrsio.
'Dangos gwên'
"I lawer ohonon ni, dyma'r unig adeg y byddwn ni'n gwneud hynny.
"Hyd yn oed lle bo gwahaniaethau crefyddol, mae cyfeillgarwch yn ceisio pontio'r hyn sydd, fel arfer, yn cadw pobl ar wahân.
"Mae'r Nadolig yn amser i rannu, i ddangos gwên, i estyn llaw mewn cyfeillgarwch ac i ddymuno'n dda."
Gan fod y Nadolig yn ŵyl sy'n dathlu cariad Duw at y byd, meddai, byddai pawb, meddai, "yn ddiwahân, yn profi'r cariad hwnnw ...
"... mae hynny'n golygu fod gennym ni rywbeth yn gyffredin a'n bod ni yn 'perthyn'."
"Mae pobl wedi bod yn dod at ei gilydd dros y Nadolig drwy'r canrifoedd, a hynny er gwaetha eu gwahaniaethau," meddai.
"Boed felly eleni eto wrth i ni oll estyn llaw i'n gilydd mewn cyfeillgarwch, a gwenu ..."