BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 14 Rhagfyr 2007, 09:14 GMT
Datblygiad £8m i athrofa
Darlun artist o'r ganolfan newydd
Darlun artist o du mewn y ganolfan newydd

Mae cynlluniau ar gyfer datblygiad £8 miliwn i estyn Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru yn Wrecsam wedi cael eu cyhoeddi.

Fe fydd cam cyntaf y cynllun yn dechrau ym mis Mawrth 2008 wrth i ganolfan gynadledda a chelfyddydau perfformio gwerth £3m gael ei chodi.

Mae'n cynnwys theatr newydd lle bydd 320 o seddi.

Yr athrofa a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru sy wedi buddsoddi yn y prosiect.

Fe fydd hyn yn "ymateb i'r galw am gyrsiau sy'n ymwneud ag anghenion y diwydiannau creadigol newydd," meddai'r coleg.

'O fudd'

Bydd Canolfan Gynadledda Lôn Crispin yn cael ei datblygu ar Gampws Plas Coch lle bydd stafelloedd cyfarfod, technoleg sain a gweledol uwch-dechnoleg a chyfleusterau cynadledda modern.

"Bydd datblygu'r rhwydwaith mewnol a'r campws o les i'r myfyrwyr a'r gymuned," meddai'r prifathro, yr Athro Michael Scott.

"A bydd y datblygiad yn gaffaeliad i Wrecsam."

Fe fydd yr ail gam yn cynnwys adeiladu Canolfan Dylunio, Technoleg a Chyfryngau Newydd.

"Mewn coleg arloesol fe fydd modd i fyfyrwyr israddedig ac uwchraddedig ddysgu am y dechnoleg ddiweddara ..."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^