Roedd protestwyr o bob cwr o Wynedd
|
Mae cynghorwyr Gwynedd wedi pleidleisio o blaid cam nesaf eu cynllun i ad-drefnu ysgolion cynradd.
Fe fydd y cyngor yn ceisio barn y cyhoedd am ddogfen sy'n cyfeirio at gau hyd at 29 o ysgolion y sir.
Y bleidlais oedd 43 i 22 (gyda phump yn ymatal) ar ddiwedd cyfarfod a barodd am ddwy awr a hanner.
Ar ôl y cyfarfod dywedodd y Cynghorydd Seimon Glyn o fudiad Llais y Bobl, sy'n erbyn y cynlluniau: "Rwan mae'r ymgyrch yn cychwyn i bob pwrpas.
"Mi fyddwn ni'n dewis ymgeiswyr credadwy fydd yn medru herio'r cynghorwyr sydd wedi pleidleisio o blaid y cynllun yn etholiad mis Mai fel bod modd gwrthdroi'r penderfyniad."
Dywedodd arweinydd y cyngor, Richard Parry Hughes,: "Mae chwe mis rwan i bobl roi eu sylwadau am y strategaeth.
Roedd cannoedd y tu allan i swyddfeydd y cyngor
|
"Yna bydd dogfen derfynol yn cael ei rhoi at ei gilydd i'w derbyn gan y cyngor newydd ym mis Mai neu Fehefin."
Dywedodd fod "pob peth yn bosib".
"Mae'n amlwg fod rhai pethau y gallwn ni eu newid, mae'n amlwg fod ambell gamgymeriad - mae pobl wedi dweud wrthyn ni amdanyn nhw yn barod.
"Ond mewn achosion eraill bydd rhaid i ni fod yn onest a dweud 'Na, allwn ni ddim gwneud hynny.'
"Mae gonestrwydd yn bwysig."
Diolchodd i'r cynghorwyr am drafodaeth ystyrlon.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Strategol Datblygu, Iwan Trefor Jones: "Os bydd y cynigion yn cael eu gweithredu, bydd 70% o ysgolion cynradd Gwynedd yn elwa ar gynnydd yn y gwariant sy'n cael ei fuddsoddi yn eu haddysg.
"Bydd £30 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn natblygiad wyth ysgol ardal newydd tra bydd arian pellach ac arian sy'n cael ei wario ar adeiladau anaddas yn cael ei wario ar gynnal a chadw a gwella adeiladau ysgolion i safon uchel."
'Canmol'
Mae llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith, Ffred Ffransis, wedi dweud: "Yn lle cymeradwyo ei strategaeth ei hunan tu ôl i ddrysau caeëdig a mynd ymlaen i'w gorfodi'n syth ar ysgolion unigol drwy ymgynghori statudol - fel y gwnaeth Cyngor Sir Caerfyrddin - mae Gwynedd wedi cymryd cam yn ôl ac wedi galw am drafodaeth drwy'r sir cyn cymeradwyo'r strategaeth yn eu cyfarfod ym mis Mai.
"Yr ydyn ni'n canmol y cyngor am wneud hyn ac yn canmol yr ymgyrchwyr lleol sydd wedi pwyso mor galed dros eu hysgolion a'u cymunedau Cymraeg.
"Rydyn ni'n galw arnyn nhw i gymryd y cyngor ar eu gair a danfon i mewn gannoedd o ymatebion yn esbonio gwrthwynebiad i'r ddrafft-strategaeth bresennol a'r dulliau eraill yr hoffen nhw weld yn cael eu mabwysiadu."
600 yn protestio
Roedd tua 600 yn protestio cyn i gyngor llawn Gwynedd drafod y cynlluniau ad-drefnu.
Ac roedd y strydoedd ger swyddfeydd y cyngor yn llawn o brotestwyr o bob cwr o'r sir.
Y cyfarfod yng Nghaernarfon ddydd Iau oedd y cyfle cyntaf i'r cyngor llawn drafod yr ad-drefnu.
Mae'r ddogfen yn cynnwys cynlluniau i gau 29 ysgol gynradd, creu 8 ysgol ardal newydd a chreu 18 ysgol ffederal.