BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 12 Rhagfyr 2007, 10:57 GMT
Sioe Fawr: 'Colled o 300,000'
Tarw Henffordd yn y Sioe (diolch i M Wright)
Roedd mwy na 7,600 o anifeiliaid yn y sioe eleni

Mae trefnwyr wedi awgrymu y gallai'r Sioe Fawr wneud colled o 300,000 eleni oherwydd y tywydd gwaethaf ers blynyddoedd.

Dywedodd Dai Lewis, cadeirydd bwrdd rheoli y Sioe Frenhinol, wrth y BBC: "Roedd gennym ni ddewis i gynnal y sioe er gwaetha'r tywydd neu ei chanslo ar y funud olaf.

"Pe bawn ni wedi gwneud hynny (canslo), bydden ni wedi gwneud colled o 2-3 miliwn, a byddai'r economi leol wedi dioddef colled enfawr.

"Roedd yn anffodus iawn eleni ein bod ni wedi colli un o'r meysydd parcio allweddol pan symudodd sipsiwn i mewn y dydd Sadwrn cyn y sioe."

Roedd gofyn i ymwelwyr Llanelwedd fod yn amyneddgar ar y dydd Llun agoriadol am fod tagfeydd o 10 milltir o hyd ac roedd angen trefnu mwy o feysydd parcio nag arfer oherwydd y tywydd garw.

Problem

Roedd ysgrifennydd y sioe Barry Jones wedi dweud cyn agor y sioe fod y glaw wedi bod yn broblem.

Ond roedd gwario 350,000 ar system gwteri newydd, meddai, wedi lleddfu effaith y tywydd gwael.

Roedd mwy na 7,600 o anifeiliaid yn y sioe eleni, 209 yn fwy na'r llynedd.

Mae'r sioe yn un o'r rhai mwya o'i math yn Ewrop.



HEFYD
Amaeth: Rhybudd 'argyfwng'
26 Tach 07 |  Newyddion
Ffermwyr: Cyfarfod gweinidog
24 Hyd 07 |  Newyddion
Sioeau amaeth: 'Ennill tir'
29 Awst 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^