BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 10 Rhagfyr 2007, 14:09 GMT
Cyfieithydd yn cipio Mastermind
Sion Aled
Dathlu: Sion Aled Owen

Sin Aled Owen o Wrecsam sy'n dathlu ar l ennill Mastermind Cymru 2007.

Roedd y cyfieithydd 50 oed yn erbyn pedwar arall yn rownd derfynol rhaglen BBC Cymru ar S4C nos Sul.

Dywedodd fod y wefr o eistedd yng nghadair ddu Mastermind yn dal y tlws yn debyg i'r hyn deimlodd wrth eistedd yng Nghadair Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth pan enillodd y Goron ym 1981.

"Roedd 'na debygrwydd mewn ffordd arall - gan 'mod i'n gwybod ers amser 'mod i wedi ennill ond wedi gorfod cadw'r peth yn gyfrinach tan i'r rhaglen gael ei darlledu."

Ei bynciau arbenigol oedd Y Diwygiad yng Nghymru (1904-6) ar gyfer y rownd gyntaf a bywyd a barddoniaeth Goronwy Owen ar gyfer y rownd derfynol.

Gan ei fod yn gwis feistr Menter Wrecsam dywedodd ei fod yn fwy cyfarwydd gofyn cwestiynau na'u hateb.

'Cyffrous'

"Mae pawb yn cwyno yn y cwisys fod y cwestiynau'n rhy anodd," meddai.

Yn y rownd olaf cafodd Tomos Rees a Mr Owen 23 o bwyntiau.

Ond Mr Owen enillodd yn y pen draw gan ei fod wedi dweud "Nesa" ar lai o gwestiynau na Tomos.

"Roedd y diweddglo'n gyffrous," meddai Mr Owen.

"Peth da i'r gwylwyr, ond ddim cystal i ni oedd yn cystadlu."

Dywedodd ei fod wedi mwynhau gwylio'r rownd derfynol gyda'i wraig, Sin, a'i fab, Rhys, nos Sul.

"Roedd hi'n braf cael eistedd ar y soffa ...

"Serch hynny, roedd yn brofiad rhyfedd.

"Roeddwn i'n dal yn teimlo'r tensiwn er 'mod i'n gwybod y canlyniad."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^