Mae rhieni wedi cynnal sawl protest yn erbyn y cynlluniau
|
Bydd rhai o'r cynlluniau dadleuol i ad-drefnu ysgolion Gwynedd yn cael eu gohirio am flwyddyn.
Mae'r awdurdod wedi cyhoeddi rhai newidiadau i'w cynlluniau.
Maen nhw'n dal i argymell cau 29 o ysgolion, gan adeiladu wyth ysgol newydd.
Bydd y cynllun drafft newydd yn cael ei drafod gan y cyngor llawdd ddydd Iau nesa.
Y bwriad, pe bai'r cynghorwyr yn cytuno, yw cau'r ysgolion rhwng 2009 a 2013.
Mae disgwyl i gannoedd o rieni gynnal protest cyn y cyfarfod.
Yr argymhelliad i'r cynghorwyr ydi i fwrw ymlaen gyda'r broses ymgynghori gan anelu at wneud penderfyniad terfynol ym mis Medi 2008.
Bydd un o'r ysgolion, Ysgol y Clogau Bontddu, ger Dolgellau yn cael aros ar agor am flwyddyn ychwanegol.
Ac mae'r bwriad i greu 12 Ysgol Ffederal, fyddai'n effeithio 40 o ysgolion, wedi ei ohirio hyd at ddwy flynedd.
Dywed arweinwyr y cyngor bod 'na "newidiadau sylweddol" wedi eu gwneud i'r ddogfen wreiddiol gafodd ei chyhoeddi ym mis Hydref.
Ers hynny mae nifer wedi gwrthwynebu'r cynlluniau ac mae protestiadau wedi cael eu cynnal.
Llais y Bobl
Yn ôl deilydd portffolio ysgolion y cyngor, y Cynghorydd Dyfed Edwards, mae'r cyngor wedi gwrando ar awgrymiadau creadigol.
"O ganlyniad mae yna newidiadau mawr wedi ei gwneud i'r cynllun drafft," meddai.
"Mae'r ddogfen yma yn cynnig cyfle i symud ymlaen yn adeiladol ac yn greadigol."
Ond mae mudiad Llais y Bobl, sydd wedi cael ei sefydlu'n ddiweddar gan wrthwynebwyr, yn gwrthod y ddogfen yn llwyr.
"Mae ymestyn y cyfnod ymgynghorol wedi digwydd oherwydd pwysau gan rieni, llywodraethwyr a chymunedau bron iawn yn unfrydol am ladd y ddogfen," meddai'r Cynghorydd Owain Williams o'r mudiad.
"Mae'n ddiddorol bod y cyfnod chwe mis ychydig tu hwnt i'r etholiad ym mis Mai.
"Dwi ddim yn credu y bydd gan Blaid Cymru fwyafrif ar y cyngor ar ôl yr etholiad, fe fydd Llais y Bobl wedi dwyn nifer o'r seddi."
Mae'r cyngor wedi dweud na fydd pleidlais dros y ddogfen ddydd Iau nesa yn bleidlais o blaid cau ysgolion.