Mae'r gweddillion 29,000 oed wedi bod yn Rhydychen
|
Mae sgerbwd 29,000 oed wedi dychwelyd i Gymru am y tro cyntaf ers cael ei ddarganfod yn 1823.
Bydd gweddillion 'Dynes Goch Pen-y-fai' yn cael eu harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd, o ddydd Sadwrn ymlaen.
Cafodd y sgerbwd ei ddarganfod mewn ogof yn Mhenrhyn Gŵyr cyn cael ei gludo i Brifysgol Rhydychen.
Mae profion diweddar yn dangos bod yr olion yn 29,000 oed, 4,000 yn hŷn na'r gred flaenorol.
Dyma'r dystiolaeth hynaf o gladdedigaeth ffurfiol yng ngorllewin Ewrop.
Mae tua naw gwaith yn hŷn na'r ffaro Eifftaidd Tutankhamun.
Mae'r gweddillion ar fenthyg gan Amgueddfa Hanes Natur Rhydychen am flwyddyn.
Dyn ifanc
Cafodd y sgerbwd ei ddarganfod gan William Buckland, Athro Daeareg ym Mhrifysgol Rhydychen.
Daeth o hyd i'r esgryn yn Ogof Twll yr Afr ym Mhen-y-fai.
Cafodd y sgerbwd ei ganfod yn Ogof Pen-y-Fai
|
Oherwydd bod yr esgyrn yn goch, roedd wedi meddwl eu bod yn perthyn i ddynes ac yn dyddio i'r oes Rufeinig.
Ond esgryn dyn ifanc ydyn nhw a dweud y gwir, ac roedden nhw wedi cael eu gorchuddio mewn ocr coch.
Mae'r gweddillion yn cael eu dangos fel rhan o o arddangosfa Gwreiddiau: Canfod y Gymru Gynnar.
Yno hefyd y bydd y dystiolaeth gyntaf o arddull gelf dau ddimensiwn sef carreg Bryn Celli Ddu o Fôn ac enghreifftiau o waith aur o'r Oes Efydd, breichledi Capel Isaf, ac o oes y Rhufeiniaid.
"Dim ond detholiad bach o'r llu o bethau hynod a gafodd eu darganfod yng Nghymru ydi'r hyn fydd yn cael eu harddangos," meddai Dr Mark Redknap o'r Amgueddfa.
"Mae'r casgliadau a'u dehongliad diwygiedig - llawn cyfoeth a gwybodaeth - yn ein helpu ni i ddeall ein hunain, a'r Gymru sydd ohoni."