Mae Cyngor Gwynedd wedi penderfynu cau'r pwll
|
Mae Cyngor Gwynedd wedi datgelu y bydd yn cau pwll nofio Harlech y flwyddyn nesa er mwyn arbed arian.
Cafodd y penderfyniad ei gyhoeddi mewn adroddiad ar ddatblygu hamdden a chwaraeon yn y sir.
Dywed y Cyngor bod y pwll "wedi cyrraedd diwedd ei oes" a'u bod wedi pryderu ers amser am "lefelau isel o ddefnydd".
Mae rhai sy'n defnyddio'r pwll wedi sefydlu ymgyrch i wrthwynebu'r penderfyniad.
Dywed Cyngor Gwynedd y bydd cyfleusterau chwaraeon - sy'n cynnwys 14 canolfan hamdden a chyflog 175 o staff - yn costio dros £3 miliwn y flwyddyn nesa.
Dywedodd y Cynghorydd Roy Owen mai sefyllfa ariannol ddifrifol y Cyngor a chyflwr gwael rhai o gyfleusterau'r sir sydd i gyfrif am y toriadau.
£160,000
"Mae llawer o'r cyfleusterau hyn yn hen ac yn cael eu defnyddio gan nifer cymharol fach."
Ychwanegodd y bydd y Cyngor yn "gweithio gyda'n partneriaid er mwyn dod o hyd i ffyrdd newydd creadigol o ddarparu cyfleoedd hamdden o'r radd flaenaf i bobl Gwynedd".
Mae'r Cyngor yn gobeithio y bydd cau'r pwll yn arbed £160,000 y flwyddyn.
Mae'r pwll nofio agosaf ym Mhorthmadog sy'n daith 10 milltir.
Dywedodd Richard Holland sy'n defnyddio'r pwll ei fod o'n siomedig iawn.
"Mae yna griw o bobl sy'n ceisio achub y pwll," meddai.
"Fe fyddwn ni'n gofyn am gymorth yr AC lleol a gwleidyddion eraill."