BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 4 Rhagfyr 2007, 07:53 GMT
Golwg yn llygadu'r we
Cylchgrawn Golwg
Mae'r cylchgrawn yn gwerthu rhywng 3,000 a 3,500 bob wythnos

Mae perchnogion cylchgrawn Golwg yn gobeithio cael arian gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu safle newyddion dyddiol ar y we.

Dywed y cylchgrawn wythnosol nad ydi'n fwriad i gystadlu am unrhyw arian fydd ar gael i sefydlu papur newydd dyddiol Cymraeg.

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi sefydlu arolwg o'r wasg Gymraeg er mwyn ei chryfhau.

Yr wythnos ddiwetha cyhoeddodd Cwmni Dyddiol Cyf. ei fod yn gohirio dyddiad cyhoeddi papur dyddiol Cymraeg 'Y Byd' tan fod yr arolwg wedi ei gwblhau.

Dywed Cadeirydd Golwg, Gwynfryn Evans, mai nod y cylchgrawn yw datblygu'n raddol i gynnig gwasanaeth pob dydd.

"Dyde ni ddim eisiau cystadlu o gwbl am arian y papur dyddiol," meddai.

"Ond mae ganddon ninnau gynlluniau pwysig ac fe fyddwn ni'n chwilio am gefnogaeth iddyn nhw."

Nod arall y cwmni yw datblygu math newydd o gylchgrawn i bobl ifanc.

Cystadlu am arian

Dywedodd Golygydd Gyfarwyddwr Golwg, Dylan Iorwerth, y bydd y safle we ar y dechrau yn gweithio ochr yn ochr â'r cylchgrawn sy'n 20 oed eleni.

"Mae'r cylchgrawn a'r tîm o newyddiadurwyr sydd gan Golwg yn cynnig sylfaen y gallwn ni adeiladu'n raddol arno fo."

Mae'n bwysig fod Y Byd yn cael cyfle diwrthwynebiad i gynnig am arian ar gyfer papur dyddiol
Dylan Iorwerth

"Ryden ni'n cymryd y cam cynta' yr wythnos yma trwy osod fersiwn llawn o'r cylchgrawn ar y we. "

Dywedodd na fyddai Golwg, sydd â chylchrediad o rhwng 3,000 a 3,500, yn cystadlu am arian i geisio sefydlu papur dyddiol.

"Mae'n bwysig fod Y Byd yn cael cyfle diwrthwynebiad i gynnig am arian ar gyfer papur dyddiol.

"Ond ar ôl hynny, ryden ni eisiau cynnig am unrhyw arian pellach, fel bod y wasg Gymraeg gyfan yn tyfu."

Bwriad gwreiddiol 'Y Byd' oedd cyhoeddi'r rhifyn cyntaf ar Fawrth 3, 2008.

Dywedodd Ned Thomas, cadeirydd y cwmni, fod yn rhaid aros er mwyn clywed casgliadau'r arolwg cyn mynd ati i gyhoeddi.

Ychwanegodd mewn cyfweliad radio ei fod yn ffyddiog y byddai'r papur yn ymddangos "rhywbryd yn 2008".



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^