Bydd Sian Sutton yn gadael adran materion cyfoes y BBC i olygu Golwg
|
Mae gan y cylchgrawn materion cyfoes wythnosol Golwg olygydd newydd.
Ar hyn o bryd mae Siān Sutton yn gweithio i adran materion cyfoes y BBC.
Fe fu'n gweithio i orsaf radio Sain Abertawe cyn ymuno ā'r BBC a rhaglen newyddion gynta S4C ym 1982.
Mae'n olynu Marc Jones, cyn-gynhyrchydd rhaglenni materion cyfoes y BBC a HTV, sy'n symud i fod yn swyddog cyfathrebu Plaid Cymru yn y gogledd.
Roedd Karen Owen wedi gadael swydd golygydd y cylchgrawn yn gynharach yn y flwyddyn, ar ōl cael swydd cynhyrchydd yn y BBC ym Mangor.
Cafodd y cylchgrawn materion cyfoes wythnosol ei sefydlu yn 1988.