Aelodau Cymdeithas yr Iaith yn picedu'r cynulliad nos Fawrth
|
Roedd aelodau Cymdeithas yr Iaith yn picedu'r cynulliad ddydd Mawrth wrth bwyso am sefydlu coleg lle bydd cyrsiau gradd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yr un diwrnod cafodd cynllun swyddogol ei lansio i geisio denu mwy o fyfyrwyr i ddilyn eu haddysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg.
Nod cynllun Addysg Uwch Cymru yw ehangu nifer y cyrsiau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ond mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud nad yw'r cynllun yn sôn am Goleg Ffederal.
Mae sefydlu Coleg Ffederal yn rhan o amcanion llywodraeth glymblaid Llafur a Phlaid Cymru.
'Tensiwn'
Dywed dogfen "Cymru'n Un" y dylid "cyflwyno Rhwydwaith Addysg Uwch Gyfrwng Cymraeg - y Coleg Ffederal - er mwyn sicrhau darpariaeth Gymraeg yn ein prifysgolion."
Mae Menna Machreth o'r mudiad iaith wedi dweud bod y cyfeiriad at Goleg Ffederal yn annelwig.
Nod y cynllun: Denu mwy o fyfyrwyr i ddilyn addysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg
|
"Rydyn ni'n deall bod y cwestiwn o Goleg Ffederal Cymraeg yn peri peth tensiwn o fewn y glymblaid oherwydd mae'r cyfeiriad ato yn y ddogfen Cymru'n Un yn annelwig."
Mae'r mudiad wedi cyflwyno papur yn amlinellu eu dadleuon i'r Ysgrifennydd Addysg Jane Hutt.
"Mae tystiolaeth yn dangos bod llawer o wleidyddion wedi mabwysiadu polisi nad oedden nhw'n llawn deall ei arwyddocâd tymor hir.
'Gobaith'
"Ein gobaith ni gyda'r ddogfen hon yw cyflwyno yr hyn a olygir wrth Goleg Ffederal Cymraeg."
Dydd Mawrth lansiodd Addysg Uwch Cymru, corff sy'n cynrychioli is-gangellorion a phenaethiaid sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, gynllun i geisio denu mwy o fyfyrwyr i ddilyn eu haddysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg.
Y nod yw cynyddu'r dewis o gyrsiau ar gael yn y Gymraeg.
Daw'r cynllun ar ôl blwyddyn o gydweithio rhwng colegau a phrifysgolion.
Eisoes mae "trafodaethau manwl" wedi bod am "gyfleoedd newydd" ym meysydd daearyddiaeth, yr amgylchedd, diwydiannau creadigol a'r gyfraith.
Dywedodd llefarydd: "Byddwn ni'n canolbwyntio ar ysgogi'r galw ymhlith myfyrwyr, dangos pa mor bwysig yw sgiliau dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, a sicrhau bod staff newydd a staff presennol sy'n gallu addysgu yn ddwyieithog yn cael eu helpu.