Nod gwreiddiol: Sianel ddigidol Aeleg yn 2008
|
Mae Ymddiriedolaeth y BBC wedi dweud na fydd cynlluniau i sefydlu sianel ddigidol Aeleg yn cael eu cymeradwyo ar hyn o bryd.
Dywedodd yr ymddiriedolaeth fod angen manylion am "apêl eang" y Gwasanaeth Digidol Gaeleg a "manteision addysgol".
Yn wreiddiol, roedd y sianel i fod i ddechrau ym mis Mawrth ac mae'r cyfnod ymgynghori yn dod i ben ar Ragfyr 19.
Caiff y penderfyniad terfynol ei wneud ym mis Ionawr.
Fe fydd y sianel yn costio £24.8 miliwn y flwyddyn os yw hi'n cael ei lansio ar wasanaeth Freeview yn 2010.
Ac fe fydd y Gwasanaeth Cyfryngau Gaeleg yn cyfrannu £10.1 miliwn a'r BBC yn cyfrannu £14.7 miliwn.
Eisoes mae'r gwasanaeth wedi prynu hen raglenni Gaeleg Scottish Television, cyfanswm o fwy na 1000 o oriau.
Saith awr
Fe fydd y sianel newydd yn darlledu saith awr o raglenni bob dydd, gan gynnwys awr a hanner o raglenni gwreiddiol.
Roedd y sianel yn ystyried "drama arloesol" o'r enw 'Feith' am bobl ifanc, rhaglen fyddai'n cael ei darlledu ar ôl 9pm.
"Fydd y cynnwys ddim yn ddiniwed a gallai'r stori fod yn ddadleuol ond fe fyddwn ni'n cystadlu â sianeli eraill," meddai llefarydd.
Roedd y darllediad cynta yn yr iaith Aeleg ar radio yn 1923.
Pregeth chwarter awr y Parchedig John Bain o eglwys yn Aberdeen oedd hi.