BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 17 Tachwedd 2007, 16:19 GMT

Talu'r pris am haf gwlyb?
Traeth Aberdyfi
Cafodd traeth Aberdyfi y Fanner Las am y tro cyntaf yn 2006
Mae pum traeth yng Nghymru wedi colli eu statws Baner Las Ewrop am safon purdeb y dŵr.

Y pum traeth yw Cricieth ac Aberdyfi yng Ngwynedd, Llangrannog ac Aberporth yng Ngheredigion ac Amroth yn Sir Benfro.

Dywed Cadwch Gymru'n Daclus, y mudiad sy'n cydlynu'r ymgyrch faneri, y bod yn bosib fod glaw trwm yr haf a lefel uchel yr afonydd wedi cynyddu llygredd yn y môr.

Mae'r penderfyniad yn golygu na fydd y traethau yn cael hedfan baner las y flwyddyn nesa.

Gwnaed y profion yn ystod tymor yr haf.

Mae'r pump ymhlith 44 o draethau a pum marina oedd a'r hawl i hedfan y faner las eleni.

'Mwy o lygredd'

Yn ôl Tegryn Jones, prif weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus, mae profion yn cael eu cynnal yn gyson ac fe allai traethau golli eu statws ar unrhyw adeg.

"Mae'n bosib i'r traethau fethu'r prawf oherwydd ffactorau lleol, ond mae hefyd yn bosib fod yr haf gwlyb wedi cael effaith.

"Mae'n eitha posib fod lefel uchel afonydd wedi golygu fod yna fwy o lygredd yn mynd i'r môr.

"Ond ar y cyfan mae safon traethau Cymru yn uchel."

Dywedodd Gethin James, cynghorydd sir yng Ngheredigion, fod Aberporth yn cael ei gosbi oherwydd yr haf gwlyb.

"Dydi hi ddim yn iawn ein bod yn colli'r faner las y flwyddyn nesa am ganlyniadau profion o'r flwyddyn flaenorol," meddai.




HEFYD
Traeth: Llanw'n troi?
17 Mai 06 |  Newyddion
Mwy o draethau'n derbyn y Faner Las
15 Mai 06 |  Newyddion
Ansawdd dwr traethau 'yn gwella'
02 Tach 04 |  Newyddion


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^