Cafodd Ray Gravell yrfa rygbi a darlledu lwyddiannus
|
Roedd miloedd yn angladd y cyn-chwaraewr rygbi a'r darlledwr Ray Gravell ym Mharc y Strade, Llanelli, ddydd Iau.
Yr amcangyfri oedd bod hyd at 10,000 yn yr angladd ddechreuodd am 1pm.
Roedd galarwyr wedi ymgasglu y tu allan i'r stadiwm ers 9.30am cyn i'r clwydi agor am 11.30am.
Bu farw Grav yn sydyn yn 56 oed pan oedd ar wyliau yn Sbaen gyda'r teulu ar Hydref 31.
Y cyn-Archdderwydd a'r Prifardd Y Parchedig Meirion Evans arweiniodd y gwasanaeth.
"Fe fydd y maes chwarae hwn (Y Strade) megis teml am brynhawn gan ein bod ni wedi ymgynnull i addoli Duw ac i roi coffa teilwng i'n cyfaill, Raymond, Ray, Ray o'r Mynydd, Grav," meddai.
Yn galaru yn y dorf: Gareth Edwards
|
"Roedd mor fawr fel bod ganddo fwy nag un enw."
Wedyn cafodd Calon Lân ei ganu.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan: "Mae'n dipyn o gyfrifoldeb arswydus ond pleserus i dalu teyrnged i un o feibion enwoca ond anwyla Cymru, Grav.
"Roedd yn Gymro i'r carn, un o fechgyn Mynydd y Garreg, un o fois Sir Gâr, ond yn bennaf, Cymro i'r carn, nid yn unig ar ddydd Sadwrn ond bob dydd a nos, bob awr."
Gofynnodd pam oedd Grav yn arbennig.
"Am fod ei bentre ar y ffin rhwng y Gymru wledig a'r pyllau glo ac am fod ganddo allu i gyfathrebu gystal â phawb o bob cwr o Gymru.
"Roedd yn cyffwrdd â'n heneidiau ni, fel unigolion ond fel cenedl hefyd.
Teithiodd yr hers o Fynydd y Garreg i Barc y Strade
|
"Diolch am dy gwmnïaeth, Grav, a mwynha Sadyrnau'r nef."
Yr un nesa i dalu teyrnged oedd yr hanesydd, Yr Athro Hywel Teifi Edwards.
"Mae'n dda bod Robyn McBryde neu Robin o Fôn yma (yn cario'r cledd).
"Dyna fyddai dymuniad, Grav. Rwy'n ei gofio'n codi'r cledd uwchben y prifeirdd ac roedd mor falch o fod yn cymryd rhan yn y seremonïau.
"Mae llinell o'n hen orffennol, Beirdd byd barnant gŵr o galon, ac os oedd 'na rywun yn haeddu hyn yn ein dyddiau ni, Grav oedd hwnnw.
"Camp fawr Grav, hyd yn oed yn ei farw, oedd creu beirdd ymhob un ohonon ni - pawb yn canu clodydd, pawb yn eu ffyrdd eu hunain, am ei fod, wrth gwrs, yn dalp o wladgarwch diledryw â chalon agored oedd yn cynnwys pawb.
Chwaraewyr Scarlets Llanelli ger y clwydi'n talu teyrnged
|
"Roedd caru Cymru ac ymfalchïo yng ngwerth ei phobl mor naturiol i Grav ag anadlu.
"Os oedd rhywun yn gofyn iddo esbonio beth oedd ei wladgarwch, mae'n debyg y byddai'n defnyddio geiriau ei arwr, Dafydd Iwan, 'Peidiwch â gofyn eich cwestiynau dwl ... Pam bod eira'n wyn?'"
Dywedodd ei fod wedi byw ei wladgarwch yn ddyddiol.
"Mae Waldo'n gofyn 'Beth yw bod yn genedl? Dawn yn nwfn y galon'.
"Dyna oedd gwladgarwch Grav, dawn, greddf, yn rhan o'i fywyd bob dydd."
Ar gais Grav Dafydd Iwan yn canu Myn Duw Mi Wn y Daw
|
"Yng ngeiriau'r bardd Gwyn Thomas: 'Dyw arwyr byth yn marw'."
Dywedodd y cyn-chwaraewr rhyngwladol Gerald Davies: "Drwy'r tristwch a'r trasiedi, dathlu bywyd yr ydyn ni ...
"Ble bynnag yr aeth e, aeth â Mynydd y Garreg gydag e, y flilltir sgwâr oedd yn llawn serch ar hyd ei oes, oes a fu lawer rhy fyr.
"Fe wnaethom ni ddilyn ei lwybr fel darlledwr un foment, fel actor y nesaf, fel chwaraewr rygbi ac fel cawr fel Ceidwad y cledd yn codi ar yr alwad 'A oes heddwch?'.
Dywedodd fod "ganddo ffydd yn ei genedl, yn yr iaith" a'i fod "yn ffyddlon i'w ffrindiau a'i gydweithwyr".
"Roedd pawb yn teimlo eu bod yn gymydog agos iddo.
"Ta beth, yn y Strade yn y dyfodol fe fydd Grav yn siwr o gael ei gofio.
"Ni yma o hyd, y tristwch yw dy fod ti ddim gyda ni.
"Mae'r tawelwch wedi disgyn ac mae 'na ddistawrwydd mawr."
Araith rymus: Yr Athro Hywel Teifi Edwards
|
Cyn yr angladd roedd gweddw Grav, Mari, wedi dweud ei fod e'n "ŵr arbennig, yn dad a ffrind gorau i fi a'r merched, Manon a Gwenan".
"Rydyn ni wedi cael ein gorlethu gan nifer y teyrngedau a negeseuon o gydymdeimlad, nid yn unig o Gymru ond ar draws y byd.
"Roedd yn addoli Manon a Gwenan ac mae ei golli mor sydyn yn mynd i fod yn golled enfawr i ni i gyd."
Chwaraewyr
Chwech o chwaraewyr Llanelli, tri o'r tîm presennol a thri o'r gorffennol oedd yn cario'r arch, Delme Thomas, Derek Quinnell, Gareth Jenkins, Simon Easterby, Stephen Jones a Dwayne Peel.
Cafodd tair baner eu cario i'r maes, Baner Dewi Sant, Baner Owain Glyndŵr a Baner y Scarlets, gan dri o blant ysgol lleol, Sioned Rowlands, Robin Davies a Sara Rowlands.
Am y tro cyntaf erioed cafodd cleddyf Gorsedd y Beirdd ei ddefnyddio y tu allan i'r seremonïau.
Teithiodd galarwyr o bob rhan o Gymru.
Dywedodd Rhiannon Tomos o Gaernarfon: "Roeddwn i'n arfer canu pan oeddwn i'n ifanc ac roedd Ray'n gefnogwr mawr.
'Ffantastig'
"Roedd hyn yn ffantastig gan mai Ray oedd fy arwr i.
"Ond heddiw rydan ni'n dathlu ei fywyd a'r hyn sy'n rhyfeddol yw bod yr angladd bron â bod yn un wladol."
Ar ôl y gwasanaeth cyhoeddus roedd gwasanaeth preifat i'r teulu yn Amlosgfa Llanelli.
Er cof am Grav, mae cronfa ymddiriedolaeth wedi ei sefydlu gyda'r nod o gefnogi elusennau ac achosion da.