British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 13 Tachwedd 2007, 16:35 GMT
Miliwnydd yn diolch i bobl leol

Haydn Williams (Llun: Teulu Williams)
Dywedodd teulu Mr Williams ei fod am 'ddiolch' i'r bobl leol

Mae miliwnydd wedi gadael bron i £700,000 i elusen canser ac i wahanol fudiadau mewn dau bentre yn y canolbarth.

Bu farw Haydn Williams, 50 oed o Aberriw, ger Y Trallwng, ym mis Mai ar ôl diodde o ganser.

Gadawodd ystâd gwerth £6.3 miliwn.

Roedd Mr Williams, wedi colli ei waith ac yna aeth ati i sefydlu cwmni ei hun yn Y Trallwng.

Ymhlith y sefydliadau fydd yn elwa mae eglwys yn Aberriw a chanolfan gymunedol yn Nolfor ger Y Drenewydd.

Gwaith Caled

Bydd y sefydliadau yn derbyn £100,000 yr un

Gadawodd £250,000 i elusen Cancer Research UK.

Eglwys Beuno Sant, Aberriw
Mae Eglwys Beuno Sant yn Aberriw i dderbyn £100,000

Bydd canolfan gymunedol Aberriw yn derbyn £100,000, felly hefyd cymdeithas hamdden leol, tra bod capel Methodistaidd Pentre Llifor i dderbyn £20,000.

Mewn datganid dywedodd teulu Mr Williams ei fod o'n ddyn preifat, tawel a gwylaidd oedd wedi sefydlu busnes cynhyrchu.

"Roedd o'n hoff o ddweud mai gwaith caled pobl leol oedd yn gyfrifol am lwyddiant y busnes ac mae'n iawn felly fod sefydliadau lleol yn cael arian," meddai'r datganiad.

Roedd Mr Williams yn rheolwr gyfarwyddwr ar gwmni Technocover, cwmni sy'n cynhyrchu drysau diogelwch.

Ar ôl colli ei waith yn 1993 defnyddiodd ei arian diswyddo i sefydlu'r cwmni sy nawr yn cyflogi tua 200 o bobl.



HEFYD
Rhodd dyn fu farw ym 1945
26 Chwef 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific