BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 9 Tachwedd 2007, 13:09 GMT
'Parch at Grav': Cn ar y brig
Dafydd Iwan
Bydd Dafydd Iwan yn canu, yn l dymuniad Ray, yn ei wasanaeth angladd

Mae un o ganeuon enwog Dafydd Iwan, Yma o Hyd, wedi cyrraedd brig siartiau caneuon gwerin Prydain - wedi ymgyrch er cof am Ray Gravell fu farw yr wythnos ddiwethaf.

Dafydd Iwan oedd ei hoff ganwr ac mae'r gn ar frig y siartiau am fod cymaint o bobl wedi ei llawrlwytho oddi ar safle I-tunes.

Dywedodd Dafydd Iwan: "Dyw hyn ddim wedi bod yn uchelgais gen i.

"Mae hyn i 'neud yn llawer mwy Ray Gravell na Dafydd Iwan gan fod hon yn ffordd i bobl ddangos eu parch at Ray.

'Cronfa goffa'

"Mi fyddwn ni'n cysylltu ag I-tunes, yn gofyn iddyn nhw gyfrannu at gronfa goffa Ray ac, yn sicr, bydd cwmni Sain yn cyfrannu arian cyfatebol.

"Byddai Ray wrth ei fodd bod y gn yn siartiau gwledydd Prydain."

Mae'r gn yn cael ei chwarae ym Mharc y Strade pan mae'r Sgarlets yn chwarae.

Dywedodd Dafydd y byddai'n canu, yn l dymuniad Ray, y gn Myn Duw mi wn y daw yng ngwasanaeth angladd cyhoeddus Ray Gravell am 1pm ddydd Iau, Tachwedd 15, ym Mharc y Strade.

Mae'r ymgyrch yn parhau i gael Yma o Hyd yn 40 Uchaf y siartiau Prydeinig.

Dylai'r gn gyrraedd y 40 Uchaf os bydd yn gwerthu 3,000 o gopau.





Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^