BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 9 Tachwedd 2007, 11:23 GMT
Gwyl gerddorol i Gaerdydd
Logo Swn
Fe fydd yr ŵyl dridiau yng Nghaerdydd

Mae gŵyl gerddorol newydd yn cael ei chynnal dros y penwythnos yng Nghaerdydd wedi ei hysbrydoli gan ymweliad Gwlad yr I.

Fe fydd mwy na 120 o fandiau yn Sŵn fydd yn cael ei chynnal ar draws y brifddinas.

Syniad cyflwynydd C2 Radio Cymru a'r troellwr Huw Stephens yw Sŵn gafodd y syniada ar l bod yn mewn gwyliau yn Texas, Barcelona a Rejkjavik.

"Fe fydd yr ŵyl dridiau yn cyflwyno peth o gerddoriaeth orau Cymru ac yn dod a lot o artistiaid di-Gymraeg i Gaerdydd," meddai Stephens, sydd wedi trefnu'r penwythnos.

Fe fydd 'na amrywiaeth o gerddoriaeth o hip hop a roc i ddawns a gwerin i'w clywed yn y brifddinas.

Ymhlith y bandiau mae Genod Droog, Brigyn, Lleuwen, Sibrydion, Texas Radio Band, Jakokoyak , 9 Bach, Al Lewis, Mr Huw, Radio Luxembourg, Edwyn Collins, The Cribs, Sons & Daughters, Cate Le Bon a Huw Stephens ei hun.

Hwb i'r economi

Yn ogystal bandiau fe fydd 'na DJ's, arddangosfeydd celf a ffilmiau sy'n ymwneud cherddoriaeth.

Dywedodd Stephens na chaiff neb eu siomi.

Huw Stephens
Huw Stephens sydd wedi trefnu'r ŵyl

"Mae'r syniad i fynd o le i le i glywed cerddoriaeth yn unigryw ac mae Caerdydd yn ddinas wych ar gyfer cynnal y math yma o ŵyl.

"Fe fydd cynulleidfaoedd newydd yn clywed bandiau ac fe fydd yn gymorth i'r economi hefyd.

"Fe fydd 'na frwdfrydedd arbennig yng Nghaerdydd," ychwanegodd.

Eglurodd ei fod wedi bod yn ffodus yn rhinwedd ei waith i gael mynd i wyliau cerddorol ar draws y byd a'i fod wedi meddwl cychwyn gŵyl yng Nghaerdydd ers rhai blynyddoedd.

Ond dywedodd mai ar ei ymweliad Reykjavik y llynedd y gwnaeth ei feddwl i fyny i fynd ati i sefydlu Sŵn.

Ymhlith y llefydd y mae'r ŵyl yn cael ei chynnal y mae Clwb Ifor Bach, Canolfan Chapter, Barfly, Bar Callaghan a The Point.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^