Mae'r Porth yn un o atyniadau Bangor
|
Mae apêl gyhoeddus yn anelu at godi £100,000 er mwyn adfer rhan o gofeb i filwyr gafodd eu lladd yn Y Rhyfel Byd Cyntaf.
Ym Mhrifysgol Bangor mae Porth Coffa Arwyr Gogledd Cymru sy'n cynnwys enwau 8,500 fu farw yn Y Rhyfel Mawr, gan gynnwys y bardd Hedd Wyn.
Cafodd y bwa ei godi yn 1923 ac mae angen £155,000 i'w adfer.
Eisoes mae'r cynulliad wedi cyfrannu £47,000.
"Mae'n anhygoel pan ydych chi'n cerdded i mewn i'r gofadail," meddai Llio Wyn Richards, Swyddog Codi Arian Prifysgol Bangor.
'Yn drawiadol'
"Ar baneli uchel mae enwau'r milwyr marw ... mae'n eich taro chi, mae'r effaith yn drawiadol."
Cafodd llawer o lythyrau eu hanfon at bobl â diddordeb yn y rhyfel neu hanes yn gyffredinol.
Mae posteri ar fysiau yn yr ardal.
"Mae'n synhwyrol bod yr apêl yn dechrau oherwydd Sul y Cofio," meddai Ms Richards.
"Ar hyn o bryd mae'r bwa ar gau a phobl ddim yn gallu mynd i mewn eleni.
"Dydd Sul mae plethdorchau yn cael eu gosod yno."