Dywed y llywodraeth bod llai o arian ar gael i'w rannu
|
Mae'r llywodraeth glymblaid ym Mae Caerdydd wedi amddiffyn y gyllideb er gwaethau beirniadaeth y gwrthbleidiau a chynghorau lleol.
Dydd Llun cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid, Andrew Davies, y byddai £3.64 biliwn yn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus dros y tair blynedd nesaf.
Ond dyw'r arian ddim yn ddigon, meddai'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Maen nhw wedi dweud y bydd gwasanaethau cyhoeddus yn diodde a chynnydd yn nhreth y cyngor.
Bydd awdurdodau lleol Cymru yn derbyn cynnydd o 2.2%.
Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod yr arian yn "gwbl annigonol."
Buddsoddiad
Byddai hyn, meddai, yn arwain at "doriadau mewn gwasanaethau, diswyddiadau a phwysau ofnadwy ar dreth cyngor".
Ond yn ôl Mr Davies, mae'r cynghorau lleol wedi derbyn "cefnogaeth hael" ar hyd y blynyddoedd.
Mae'r gyllideb yn cynnwys mwy na biliwn o bunnau'n ychwanegol ar gyfer gwasanaethau iechyd.
Fe fydd £120 miliwn o fuddsoddiad mewn gofal plant a £155 miliwn ar gynlluniau trafnidiaeth.
Mae'r cynlluniau'n cyfeirio at rai o addewidion y glymblaid, fel cliniaduron rhad ac am ddim i blant ysgolion cynradd.
Does yna ddim arian wedi ei neilltuo yn y flwyddyn gyntaf, gyda £300,000 ar gyfer 2009/10 a £400,000 ar gyfer 2010/11.
Yn ôl rhai beirniaid, fe fydd yr arian yn llawer llai nag yr oedd Plaid Cymru wedi gobeithio ei gael ar gyfer y cynllun.
Coelcerth
Dywedodd Mr Davies: "Dwi eisiau 'coelcerth aneffeithlonrwydd' sy'n cael gwared ar ddyblygu a biwrocratiaeth ac yn golygu newidiadau go iawn ar gyfer pobl Cymru.
"Rhaid i ni gael mwy o werth am ein harian ym mhob adran.
 |
CYLLIDEB
Cyfanswm tua £14.8bn (2008-2009), £15.3bn (2009/10), £15.7bn (2010-2011)
Gwariant iechyd yn codi o £5.69bn i £6.01bn dros dair blynedd, cynnydd o £320m
Grant llywodraeth leol yn codi o £3.8bn i £3.99bn dros dair blynedd, cynnydd o 2.2%
Gwariant o £120m ar ofal plant
£155m ar drafnidiaeth
£700,000 ar gyfer cyfrifiaduron i ddisgyblion cynradd 2009-2011
|
"Yr hyn sy'n bwysig yw sut rydyn ni'n gwario'r arian a'r canlyniadau nid faint yr ydyn ni'n ei wario", meddai.
Dywedodd Alun Ffred Jones, llefarydd Plaid Cymru ar gyllid, ei fod yn croesawu cynnwys cyllideb ddrafft y cynulliad.
"Mae'n golygu tasg gyffrous a heriol i'r pleidiau sydd mewn llywodraeth," meddai.
"Ac mae'n wych bod cymaint o'n haddewidion maniffesto, fel rhyddhad ar drethi busnes, nyrsys ysgol a chanolfannau lles, yn cael eu cyflawni.
£16 biliwn
Ond dywedodd y Ceidwadwyr fod y gyllideb yn "siomedig" oherwydd byddai'n rhoi gwasanaethau cyhoeddus ac awdurdodau lleol o dan bwysau.
Mae'r gwrthbleidiau yn honni na fydd y cynnydd o 2.2% ar gyfer llywodraeth leol yn ddigon i dalu am y chwyddiant mewn codiadau cyflog.