BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 5 Tachwedd 2007, 13:19 GMT
Ymgyrch 'Cwpan Grav' yn tyfu
Ray Gravell
Mae miloedd am weld y gwpan yn deyrnged i Ray Gravell

Mae miloedd o bobl yn cefnogi ymgyrch ar-lein i ailenwi cwpan rygbi ar l Ray Gravell.

Cafodd grŵp ei sefydlu ar wefan rhwydwaith Facebook ar l marwolaeth y cyn-seren rygbi'r wythnos ddiwethaf.

Maen nhw o blaid newid Cwpan Tywysog William - y wobr i enillwyr y gm rhwng Cymru a De Affrica ar Dachwedd 24 yn Stadiwm y Mileniwm - yn Gwpan Ray Gravell.

Erbyn hyn, mae 'na dros 1,000 o enwau yn y grŵp ar Facebook a mwy na 1,000 arall wedi arwyddo dwy ddeiseb ar-lein ers marwolaeth sydyn Ray.

Mae Cwpan Tywysog William yn dathlu canrif o gemau rhwng Cymru a De Affrica.

Hon fydd y gm ryngwladol gyntaf ers marwolaeth y gŵr o Fynydd y Garreg yn 56 oed pan oedd ar wyliau yn Sbaen.

Seland Newydd

Yn l y sylwadau ar y we, fe fyddai newid enw'r cwpan yn "deyrnged haeddiannol" i gyn-ganolwr Llanelli a Chymru ac un o chwaraewyr allweddol y Llewod yn ystod eu taith i Dde Affrica yn 1980.

Dywedodd cefnogwr sydd wedi arwyddo'r ddeiseb: "Gwarth taw Tywysog 'Willy' sy 'i enw ar y cwpan yn y lle cyntaf. Gwir dywysog Cymru o'dd 'Grav'!"

Gwefan Facebook
Mae dros 1,000 yn aelodau o grwp ar Facebook

A dywedodd un arall: "Pam dylse Sais a ŵyr ddim am hanes ein gwlad na chwaith ein hiaith gael y fraint? Dylse Cymro i'r carn, ac arwr i ni gyd dros y cenedlaethau fel Grav gael ei anrhydeddu."

Ond roedd rhai am weld cwpan arall yn cael ei sefydlu yn enw Ray, yn enwedig ar gyfer gemau rhwng Cymru a Seland Newydd.

"Dwi'n credu mai Cymru v Seland Newydd ddylai gael ei henwi ar Gwpan Ray Gravell, oherwydd roedd yn rhan o dm Llanelli gurodd y Crysau Duon 35 mlynedd yn l."

Fe ddaw'r galwadau wrth i lefarydd ar ran teulu Ray ddweud y bydd y gwasanaeth angladd yn cael ei gynnal yng ngartre Scarlets Llanelli, Parc y Strade.

Dydi'r dyddiad ddim wedi ei gyhoeddi eto ond fe fydd y gwasanaeth yno cyn gwasanaeth preifat.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^