Nigel Owens: 'Yn codi proffeil pobol hoyw'
|
Roedd y dyfarnwr rygbi Nigel Owens mewn seremoni arbennig yn Llundain nos Iau.
Penderfynodd mudiad Stonewall taw fe oedd Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn.
Mae'r wobor yn cydnabod unigolion sy'n codi proffeil pobol hoyw ym myd chwaraeon ac yn herio homoffobia.
Nigel, 36 oed o Bontyberem, Sir Gâr, yw'r dyn cynta hoyw agored i fod yn ddyfarnwr rygbi ar lefel ucha'r gêm.
Ym mis Hydref dyfarnodd am y tro cynta yng Nghwpan Rygbi'r Byd.
'Sioc'
Yn 2005 dyfarnodd gêm ryngwladol am y tro cynta.
Ar ôl y seremoni dywedodd Nigel, sy'n aelod o'r criw ar raglen Jonathan: "Roedd hyn yn anrhydedd, yn fraint ac yn sioc.
 |
Ond bues i'n lwcus achos mae ffrindiau a'r teulu wedi bod yn gefnogol iawn
|
"O'n i ddim yn disgwyl hyn o gwbwl.
"A dweud y gwir, roedd hyn fel cael 'y newis i fod yn ddyfarnwr yng Nghwpan y Byd."
Dywedodd nad oedd ei rywioldeb wedi bod yn bwnc trafod.
"Mae rhai wedi tynnu 'ngho's i ... ond mae'r hiwmor wedi helpu fi i 'ddod mas' ..."
Pan oedd yn ifancach, meddai, roedd yn anodd iddo, ddweud ei fod yn hoyw am fod y gymdeithas yn Sir Gâr yn "glos iawn".
"Ond bues i'n lwcus achos mae ffrindiau a'r teulu wedi bod yn gefnogol iawn."
'Dewr'
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Peter Hain: "Dwi'n ei longyfarch yn wresog.
"Mae ei batrwm ymddwyn yn ddelfrydol ar gyfer pobol ifanc sy'n ymddiddori yn y campau ...
"Ac mae ei lwyddiant a'r parch mawr iddo'n golygu ei fod yn helpu trechu'r homoffobia sy weithau'n gysylltiedig â byd y campau.
"Mae'n ddyn dewr ac wedi cyflawni llawer ym myd macho rygbi."
Roedd y seremoni yn Amgueddfa Fictoria ac Albert.