BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 1 Tachwedd 2007, 15:17 GMT
Colli'r cawr o Fynydd y Garreg
Ray Gravell
Ar l ymddeol o'r gm trodd yn actor ac yn ddarlledwr
Yn 56 oed bu farw seren rygbi Llanelli, Cymru a'r Llewod, Ray Gravell.

Mae'n debyg ei fod wedi cael trawiad ar ei galon pan oedd ar ei wyliau yn Sbaen.

Ac mae'n gadael gwraig, Mari, a'i ddwy ferch, Gwennan a Manon.

Ar adeiladau swyddogol yn Llanelli a Chaerfyrddin mae baneri yn chwifio ar hanner mast fel arwydd o gydymdeimlad.

Fe chwaraeodd Ray Gravell ei gm gynta i Lanelli yn 1970 ac ennill ei gap cynta dros Gymru yn erbyn Ffrainc yn 1975.

Enillodd y canolwr 23 cap dros ei wlad ac roedd yn allweddol yn y tm enillodd y Goron Driphlyg a'r Gamp Lawn ddiwedd y 70au a dechrau'r 80au.

Mae'n ddiwrnod trist iawn. Roedd Ray wastad yn rhoi ei orau
Gareth Edwards, cyn-fewnwr Cymru

Roedd yn aelod o dm y Sgarlets drechodd y Crysau Duon yn 1972.

Ar l rhoi'r gorau i fod yn chwaraewr yn 1985 fe oedd Llywydd Clwb Rygbi Llanelli.

Ym mis Ebrill eleni cafodd lawdriniaeth ar l diodde o glefyd y siwgr a cholli ei goes dde o dan y pen-glin.

Ailgydiodd yn ei waith darlledu ym mis Gorffennaf.

Roedd wedi datblygu'n actor a darlledwr ar ffilm, teledu a radio ac yn gyflwynydd poblogaidd ar Radio Cymru.

Fe oedd Ceidwad y Cledd Gorsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

'Anodd credu'

Ray Gravell
Enillodd y canolwr 23 cap dros Grymu

Eisoes mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r cawr o Fynydd y Garreg.

Dywedodd cyn-fewnwr Cymru, Gareth Edwards, ei fod yn ei chael hi'n anodd credu'r neewyddion gan ei fod e wedi "siarad gyda Ray yn yr wythnos ddiwetha i drefnu cyfarfod.

"Mae'n ddiwrnod trist iawn. Roedd Ray wastad yn rhoi ei orau.

"Ond roedd e wastad ychydig yn ansicr, wastad yn edrych i gael rhywun i gadarnhau ei fod e'n chwarae'n dda.

"Beth o't ti'n cael 'da Grav wastad oedd bachan diffuant.

"... pan fydda i'n edrych yn l fe fydd e gyda gwn a balchder mawr oherwydd yr hapusrwydd yr oedd e'n ei roi."

Ond bydda i yn ei gofio am ei bersonoliaeth ac fel rhywun oedd mor falch o fod yn Gymro
Cyn-asgellwr Cymru, Gerald Davies

Dywedodd Phil Bennet, cyn-faswr Cymru, ei fod yn cofio pa mor falch oedd Ray o chwarae dros Gymru.

"Pan oedd e'n paratoi ar gyfer gemau, roedd e'n canu gyda tp o ganeuon Dafydd Iwan am tua 40 munud ... roedd e'n hala pawb yn wallgo'.

"Wedyn byddai fe'n edrych ar ei hun yn y drych ac yn mynwesu'r crys, y tair pluen, ac yna byddai'n barod i fynd allan a wynebu'r gelyn."

Dywedodd Gerald Davies, y cyn asgellwr, y byddai'n cofio ei bersonoliaeth.

"... fel chwaraewr rygbi y daeth i sylw pobl a byddwn ni'n cofio ei gyfraniad i'r gm.

Roedd e'n arwr i Gymru, ac yn arwr ym myd darlledu a chyfathrebu
Y cyn-Archdderwydd, y Parchedig John Gwilym Jones

"Ond bydda i yn ei gofio am ei bersonoliaeth ac fel rhywun oedd mor falch o fod yn Gymro."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Gaerfyrddin y byddai banneri yn chwifio ar hanner y mast ar Neuadd y Dre Llanelli, a Neuadd y Sir yng Nghaerfryddin.

Cafodd llyfrau o gydymdeimlad eu hagor yn y ddau le.

"Dyw hyn fel rheol ond yn digwydd gyda aelodau o'r teulu brenhinol. Ond ym marn pobl Sir Gaerfryddin roedd Ray yn frenin," meddai Meryl Gravell, arweinyd cyngor Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis: "Ry'n ni i gyd mewn sioc gan fod Ray wastad mor llawn bywyd, hyd yn oed yn ystod y cyfnod o salwch yn gynt eleni.

Dwi'n siwr bod y genedl yn syfrdan y bore 'ma
Huw Llywelyn Davies, sylwebydd

"Roedd yn llysgennad ardderchog dros rygbi a thros Gymru."

Mae Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, David Pickering, wedi dweud fod y golled yn enfawr.

"Roedd Ray yn ymgorffori popeth sydd orau am rygbi a bydd colled fawr ar ei l.

"Ac roedd yn ysbrydoliaeth ar y cae chwarae ac oddi arno," meddai.

Fe ddywedodd y cyn-Archdderwydd, y Parchedig John Gwilym Jones, fod y newyddion "yn ergyd i bawb ohonon ni."

"Roedd e'n arwr i Gymru, ac yn arwr ym myd darlledu a chyfathrebu.

"Dyna pryd y daethon ni i sylweddoli mor ddiymhongar oedd e.

"Fel ceidwad y cledd byddai'n cerdded fel tywysog drwy ganol ei bobl.

"Fe fydd yr Orsedd a Chymru mewn dyled fawr i Ray Gravell."

Dywedodd cyn-asgellwr Cymru J J Williams fod Ray mor falch o chwarae dros ei wlad.

"Roedd ei bresenoldeb ar ac oddi ar y cae yn anhygoel.

Ray Gravell
Cafodd Ray Gravell lawdriniaeth nl ym mis Ebrill

"Ac roedd e'n gallu chwalu tacl a phasio'n dda ... fe oedd un o'r canolwyr gorau."

'Bwrlwm o Gymreictod'

Dywedodd sylwebydd rygbi BBC Cymru, Huw Llywelyn Davies, ei fod yn "fwrlwm o Gymreictod."

"Dwi'n siwr bod y genedl yn syfrdan y bore 'ma," meddai.

"Mae'n greulon bod un oedd yn gymaint o ddyn ei filltir sgwr wedi marw ar dir estron.

"Roedd e'n fwrlwm o Gymreictod ac yn fwrlwm o ansicrwydd hefyd.

"Mae rhywbeth yn codi arswyd am ddyddiad ei farwolaeth.

"Ry'n ni'n dathlu chwarter canrif ers sefydlu S4C ac yntau wedi bod yn amlwg ar y sianel.

"Ond hefyd Hydref 31 yw'r un diwrnod a roes y boddhad mwyaf i Ray, y diwrnod y curodd Llanelli y Crysau Duon, 35 o flynyddoedd yn l.

Pan oedd e'n paratoi ar gyfer gemau, roedd e'n canu gyda tp o ganeuon Dafydd Iwan am tua 40 munud ...
Cyn-faswr Cymru, Phil Bennet

"Mae'n golled enfawr i ni bod Ray wedi mynd."

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan: "Roedd rhywbeth arbennig iawn am Ray achos bod e'n dod o Bump Hewl lle ma Cymru wledig a Chymru ddiwydiannol yn cwrdd.

"Dyna pam roedd e'n gymaint o arwr a gwladgarwr.

"Roedd e mor arbennig fel dyn, mor ddewr, yn enwedig pan gollodd ei dad dan amgylchiadau mor drist , a wedyn gyda'r tostrwydd.

"Dyn dewr, dyna shwd y bydda i'n cofio Ray Gravell."

Dywedod Menna Richards, Rheolwr BBC Cymru, ei fod yn ddarlledwr unigryw.

"Mae pob un ohonon ni sy'n gweithio i BBC Cymru yn teimlo'r ergyd.

"Roedd gydag e'r gallu rhyfeddol 'na i siarad ag unrhyw un.

"Dyna oedd yn ei wneud e'n ddarlledwr mor ardderchog."




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^