Peter Hain yn rhybuddio am beidio brysio i gynnal refferendwm
|
Rhybuddiodd Ysgrifennydd Cymru Peter Hain nad oes angen brysio i gynnal refferendwm ar fwy o bwerau i'r Cynulliad o fewn y bedair blynedd nesaf.
Ond mae hyn yn un o addewidion Llywodraeth y Cynulliad.
Dywedodd wrth BBC Cymru nad oedd yn credu bod angen neidio'n rhy gynnar i gynnal y bleidlais a doedd o ddim yn credu y byddai modd ennill y bleidlais gynnar.
Ychwanegodd y dylai'r drefn bresennol gael ei ddefnyddio am fwy o amser cyn "rhuthro i'r cam nesaf".
Mewn ymateb dywedodd Llywodraeth y Cynulliad ei bod wedi dweud y byddai refferendwm yn cael ei gynnal gan ddibynnu ar gefnogaeth gyhoeddus.
"Mae gan Peter Hain hawl i'w farn fel unrhyw un arall," meddai.
Llai o ASau
Daw ei sylwadau wrth i unig Aelod Seneddol annibynnol Cymru ddweud bod angen llai o ASau o Gymru yn Nhŷ'r Cyffredin.
Mewn cyfweliad gyda The Politics Show dywedodd Dai Davies, AS Blaenau Gwent, y dylai'r nifer gael ei gwtogi i bron hanner yr aelodau presennol.
Mae Dai Davies yn fodlon colli ei waith er mwyn cael llai o ASau
|
Gyda mwy o bwerau yn cael ei roi i'r Cynulliad Cenedlaethol, dywed Mr Davies y dylai nifer yr aelodau fod yn 22 yn hytrach na'r 40 presennol.
Mae Mr Davies am weld yr aelodau yn cyfateb i awdurdodau lleol Cymru.
"Wrth i waith mewn ffatrïoedd, yn y byd go iawn, gael ei golli mae'r ffatrïoedd yn adolygu'r nifer sy'n gweithio yno, ac fe ddylen ni weithredu yn yr un modd," meddai.
Ers Etholiad y Cynulliad yn 2007 mae gan y Cynulliad fwy o bwerau ar ôl Deddf Llywodraeth Cymru 2006.
AS Lloegr
"Dwi ddim am weld y Deyrnas Unedig yn cael ei rhannu," meddai Mr Davies wrth raglen BBC Cymru The Politics Show.
"Fe ddylem gael cynrychiolaeth o Gymru a'r Alban o hyd yn San Steffan ond fe ddylai'r ffigwr gael ei gwtogi."
Mae Syr Malcolm Rifkind am weld uwch bwyllgor Lloegr yn San Steffan
|
Yn y cyfamser mae'r Ceidwadwyr yn ystyried cynlluniau fydd yn golygu mai dim ond ASau etholaethau yn Lloegr fydd yn gallu deddfu ar faterion Saesnig.
Y bwriad ydi i ateb y newid yn y balans gwleidyddol ers datganoli yng Nghymru a'r Alban.
Cyn-weinidog Ceidwadol, Syr Malcolm Rifkind, sydd wedi llunio'r ddogfen drafod sy'n ystyried creu uwch bwyllgor i bleidleisio ar faterion fel addysg ac iechyd.
Dywedodd y Llywodraeth wrth bapur newydd yr Observer bod y cynlluniau yn "anweithredol".