Rhieni yn protestio ddydd Iau
|
Roedd 300 yn protestio tu allan i swyddfeydd y cyngor wrth i Bwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc Gwynedd drafod cynllun dadleuol i gau hyd at 29 o ysgolion cynradd.
Mae'r pwyllgor wedi cefnogi'r cynigion "mewn egwyddor".
Cafodd y cynlluniau eu cyhoeddi ddydd Gwener.
Mae bwriad i greu wyth ysgol ardal ac uno ysgolion llai o dan un pennaeth i greu ysgolion ffederal.
Dywedodd y cyngor fod angen newidiadau oherwydd bod nifer y disgyblion yn gostwng a 2,400 o lefydd gwag yn ysgolion y sir.
Mae un rhiant, Julie Bowen o Lanystumdwy, wedi cyhuddo'r cyngor o "ladd ffordd o fyw".
Dywedodd John Allport, sy â thri o blant yn Ysgol Borth-y-gest,: "Dwi eisiau i'r pwyllgor wybod cymaint ydi'n anfodlonrwydd gyda'r ffaith bod yr ysgol ar y rhestr gau."
"Rydan ni wedi dychryn ... gan fod 'na 80 o ddisgyblion yno.
"Lle maen nhw i gyd i fod i fynd?"
Os bydd y cyngor yn cymeradwyo'r cynlluniau, mae disgwyl i'r ysgol gau yn 2012.
Dywedodd fod yr ysgol wedi bod yno am 125 mlynedd ac nad oes 'na reswm am ei chau.
Ymddiswyddiad
Mae un o'r cynghorwyr wedi galw am ymddiswyddiad arweinydd y cyngor, Richard Parry Hughes.
Roedd tua 300 yn protestio
|
Dywedodd Simon Glyn, cynghorydd Plaid Cymru yn Nhudweiliog, fod ei alwad oherwydd ei anfodlonrwydd ar y modd mae'r cyngor yn delio â chau ysgolion cynradd.
Ymddiswyddodd y cynghorydd â phortffolio addysg ar fwrdd y cyngor, Penri Jones, yn lle arwyddo'r ddogfen drafod.
Dywedodd nad oedd y cynlluniau ad-drefnu yn adlewyrchu teimladau'r bobl leol.
Ysgol arall o dan fygythiad yw hen ysgol y cyn-Brif Weinidog David Lloyd George yn Llanystumdwy.
Mae pump AS Democratiaid Rhyddfrydol wedi arwyddo cynnig yn Nhŷ'r Cyffredin yn cyfeirio at y bygythiad i Ysgol Llanystumdwy.