Un wy y flwyddyn mae'r Glöyn Glesyn Serennog yn ei ddodwy
|
Caiff rhan o dir eithin yn Eryri ei glirio er mwyn gwella'r cynefin ar gyfer math prin o löyn byw.
Ar ôl y gwaith clirio fe fydd defaid yn cael pori ar y tir ym Meddgelert er mwyn gwneud lle ar gyfer y Glöyn Glesyn Serennog y flwyddyn nesaf.
Mae porfa grug yn "berffaith" ar gyfer y glöyn byw yma.
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy'n berchen ar dir Cronfa Natur Genedlaethol Hafod Garegog.
Maen nhw mewn partneriaeth gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru yn rheoli'r tir.
"Mae'r tymheredd a'r amodau yng ngogledd orllewin Cymru yn berffaith ar gyfer y glöynnod byw yma," meddai Doug Oliver o'r Cyngor Cefn Gwlad.
Llystyfiant
"Fe fydd clirio'r eithin yn amhrisiadwy er mwyn gwasgaru'r cyfyngiadau i'r Glesyn Serennog.
"Maen nhw'n hedfanwyr gwan ac mae llystyfiant uchel yn eu gwahardd rhag ymgasglu mewn ardaloedd penodol."
Mae'r glöyn byw yma yn dodwy wyau ar y grug.
Dywedodd Mr Oliver eu bod yn greaduriaid bach ffwdanus ac mai rhai mathau o rug sy'n eu denu.
"Mae'r eithin yn cysgodi'r grug ac yn rhwystro defaid rhag pori yn yr hydref sy'n caniatáu i'r grug fod yn atynfa i'r glöyn byw," ychwanegodd.
Cynllun gan Brosiect Rheoli Cynefin Coedydd Derw Meirionnydd ydi hwn.
Mae'r prosiect wedi cael ei ariannu gan arian o Ewrop.
Yn Hafod Garegog mae 'na boblogaeth o fursen fach coch sy'n magu ar byllau corsiog hefyd.