BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 24 Hydref 2007, 07:29 GMT 08:29 UK
Alzheimer: Ymchwil 'arloesol'
Dwylo
Nod yr ymchwiliad: Bywyd gwell i ddioddefwyr

Mae arbenigwyr yn cynnal yr "ymchwiliad mwya" hyd yn hyn i'r genynnau sy'n achosi clefyd Alzheimer.

Arbenigwyr Prifysgol Caerdydd sy'n arwain yr ymchwiliad fydd yn golygu astudio samplau DNA 14,000 o bobl o'r Deyrnas Unedig ac America.

Fe fyddan nhw'n edrych yn fanwl ar y patrwm genynnol dynol sy'n cael ei alw'n enom.

Ac fe fyddan nhw'n chwilio am unrhyw newid yn y cd genynnol allai olygu bod person yn fwy tebygol neu'n llai tebygol o gael dementia.

Mae samplau yn cael eu casglu oddi wrth 6,000 o gleifion sy'n diodde o'r clefyd a 8,000 oddi wrth wirfoddolwyr "iach".

Wrth edrych yn fanwl ar amrywiaethau genetig, mae'r criw yn gobeithio canfod y newid sy'n golygu mwy o risg o gael y clefyd.

'Sampl sylweddol'

Yr Athro Julie Williams o'r Brifysgol fydd yn arwain yr ymchwiliad.

"Mae'r clefyd yn gymhlethdod genetig sy'n ymwneud sawl genyn ac mae angen sampl sylweddol er mwyn gwneud yn siwr bod unrhyw gyswllt genetig yn fwy na chyd-ddigwyddiad," meddai.

"Gan fod 14,000 o samplau DNA, hon yw'r astudiaeth fwya o'i bath i'r clefyd ac rydyn ni'n gobeithio y bydd yn taflu golau ar achos y clefyd ysgytwol hwn."

Mae'r Gymdeithas Alzheimer yn amcangyfri bod dros 700,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig yn diodde.

Gallai'r cyfanswm ddyblu dros yr 20 mlynedd nesaf, medden nhw, wrth i oedran pobl fynd yn hŷn.

Mae'r astudiaeth ddiweddara wedi cael 1.3 miliwn oddi wrth y Wellcome Trust, elusen ymchwil feddygol fwya Prydain.

"Mae'n hollbwysig ein bod ni'n deall mwy am yr hyn sy'n achosi'r clefyd," meddai'r Athro Richard Morris, pennaeth iechyd meddwl a niwrolegol yr elusen.




HEFYD
Y gamp o gadw'r cof yn fyw
31 Ion 07 |  Newyddion
Gobaith trin y 'clefyd creulon'
22 Rhag 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^