Bydd proses ymgynghorol yn cael ei gynnal yn y ddinas
|
Mae arweinwyr Cyngor Caerdydd wedi penderfynu gofyn am farn y cyhoedd am gynlluniau i ad-drefnu ysgolion y sir.
Fe fydd nifer o gyfarfodydd cyhoeddus yn cael eu cynnal rhwng Tachwedd 5 a Rhagfyr 21.
Ac fe fydd hyn yn gyfle i bobl ddweud eu dweud am y cynlluniau sy'n cynnwys agor trydedd ysgol gyfun Gymraeg yn y ddinas.
Mae mwy na 8,000 o lefydd gwag yn ysgolion y brifddinas.
Mae'r cynlluniau, sy'n werth £115 o filiynau, yn cynnwys codi a buddsoddi mewn ysgolion newydd yn ogystal â chyfuno rhai ysgolion.
Symud a chau
Cafodd y cynlluniau ei cyhoeddi gyntaf ym mis Gorffennaf.
Maen nhw'n cynnwys cau tair ysgol gyfun Saesneg yn y ddinas ac agor un newydd.
Fe fyddai Ysgol Uwchradd Llanedern, Ysgol Uwchradd Llanrhymni ac Ysgol Uwchradd Tredelerch yn cau.
Bydd Ysgol Teilo Sant yn symud i safle Ysgol Llanedern a'r ysgol Gymraeg newydd yn cael ei sefydlu ar safle presennol Ysgol Teilo Sant.
Caiff ysgol gyfun newydd Saesneg ei sefydlu ar safle Canolfan Hamdden Dwyrain Caerdydd.
Mae 'na fwriad hefyd i gau dwy ysgol gynradd, Ysgol St Anne a Ysgol Gynradd Cefn Onn.