BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sul, 21 Hydref 2007, 09:20 GMT 10:20 UK
Llyfrgell: Teyrnged i lywydd
Dr Brinley Jones, Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol
Mae Dr Brinley Jones yn llywyddu dros ei arddangosfa olaf

Yn y Llyfrgell Genedlaethol ddydd Sadwrn mae'r Gweinidog Treftadaeth wedi talu teyrnged i Lywydd y Llyfrgell.

Roedd Rhodri Glyn Thomas AC yno i weld arddangosfa newydd gwaith Colin See-Peyton.

Hon yw'r arddangosfa olaf i Dr Brinley Jones ei llywyddu cyn y daw ei gyfnod fel llywydd yn dod i ben yn Nhachwedd.

'Newidiadau mawr'

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas: "Mae'r Dr Brinley Jones wedi gwneud cyfraniad enfawr i'r Llyfrgell Genedlaethol ac, yn wir, i Aberystwyth a Chymru gyfan yn ystod ei dymor hir a ffrwythlon ...

"Rydyn ni wedi gweld newidiadau mawr yn y llyfrgell o dan ei lywyddiaeth - creu ardaloedd arddangos newydd, agor y Drwm, y bwyty, a'r siop.

"Mae'r nifer o ymwelwyr wedi dyblu i dros 100,000 y flwyddyn.

Dywedodd fod Dr Jones wedi "ennill ei le yng nghalonnau staff ac ymwelwyr rheolaidd y llyfrgell oherwydd ei gwrteisi cynhenid, y gefnogaeth gadarn a dibynadwy i weithwyr y llyfrgell a'r ffordd y mae'n trin pawb yn gyfartal a gyda pharch.

"Bydd yna golled fawr ar ei l".

Mae ei gyfnod yn dod i ben ar Dachwedd 30.

Fe'i apwyntiwyd yn Llywydd Prifysgol Cymru, Llanbed, yn Chwefror 2007.




HEFYD
Syr Kyffin yn gadael ystd 6m
22 Awst 07 |  Newyddion
Hanes glaniad Patagonia ar y we
19 Maw 07 |  Newyddion
Datrys dirgelwch Cadair 1935?
05 Maw 07 |  Newyddion
Trysor o wybodaeth ar y we
26 Ion 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^