Cyngor: Newidiadau 'yn angenrheidiol'
|
Mae rhieni wedi ymateb yn ddig i gynlluniau i gau 29 ysgol gynradd yng Ngwynedd.
Dywedodd y cyngor fod y newidiadau'n "angenrheidiol" er mwyn "cynnal safon addysg uchel" wrth i nifer disgyblion ostwng a bod addysg yn "brif flaenoriaeth".
Ond mae rhai rhieni wedi dweud bod y cyngor wedi "bradychu" cefn gwlad.
Mae bwriad i gau 29 ysgol gynradd a sefydlu wyth ysgol ardal.
Cafodd y cyfanswm ei gyhoeddi mewn adroddiad drafft ddydd Gwener.
Os bydd cynghorwyr o blaid y cynlluniau pellgyrhaeddol, fe fydd 48 ysgol ar 85 safle yn lle'r 106 presennol.
'Bygythiad'
Mae rhieni disgyblion yn Ysgol Baladeulyn yn Nyffryn Nantlle wedi dweud y byddan nhw'n ymgyrchu yn erbyn y cynlluniau.
Mae 27 o ddisgyblion yn Ysgol Baladeulyn
|
Dywedodd cadeirydd y llywodraethwyr Les Jones: "Bydd rhaid i ni ymuno ag ysgolion eraill o dan yr un fygythiad. Byddwn yn brwydro i'r pen a gobeithio y byddwn yn llwyddiannus.
"Yn amlwg, 'dan ni'n siomedig iawn â'r cynigion a byddwn yn brwydro i'r pen".
Mae rhieni y 27 o ddisgyblion yn yr ysgol wedi dweud y bydd ymgyrch yn dechrau i geisio achub yr ysgol rhag cau.
'Addysg orau'
"Mae gan fy machgen i anghenion arbennig a dwi'n credu mai dyma le mae'r addysg orau," meddai Emma Jones, sydd hefyd yn gyn-ddisgybl yr ysgol.
Dywedodd Anna Marie Jones bod y newyddion am y cynllun i gau wedi bod yn sioc iddi.
"Mae'n gywilyddus eu bod nhw hyd yn oed yn ystyried hyn. Mae gen i bedair merch yn yr ysgol".
Ymatebodd y fam-i-ddau Frances Williams: "Rwy'n siomedig iawn. Gallai hyn ladd y pentref."
Bydd y rhieni yn cynnal cyfarfod ddydd Mawrth.
Dywedodd Ffred Ffransis ar ran Cymdeithas yr Iaith: "Yr ydym yn cymryd arweinwyr y Cyngor ar eu gair y byddant yn gwrando ar lais y bobl ac yn barod i newid y cynlluniau hyn a luniwyd gan swyddogion mewn ymateb i farn y bobl.
 |
NEWIDIADAU ARFAETHEDIG YSGOLION CYNRADD
Ysgolion wedi eu clustnodi i gau: 21
Ysgolion Ardal ar safleoedd presennol: 3
Ysgolion Ardal ar safleoedd newydd: 8
Ysgolion Ffederal: 18 wedi eu lleoli ar 55 safle
Ysgolion heb newid: 19
Nifer ysgolion presennol Gwynedd: 106
|
"Galwn ar rieni a llywodraethwyr i fynegi eu barn am ddyfodol yr ysgolion yn glir wrth arweinwyr y Cyngor ac i ddod mewn llu i gyfarfodydd y Pwyllgor Craffu Addysg Ddydd Iau nesaf ac i'r Cyngor llawn
ar Ragfyr 13 a fydd yn trafod y strategaeth.
"Nid yw Cymdeithas yr Iaith am weld dirywiad graddol a phoenus i'n hysgolion a'n cymunedau pentrefol Cymraeg, ond credwn fod angen strategaeth gadarnhaol i ddatblygu'r ysgolion. "
'Emosiwn'
Dywedodd arweinydd y cyngor, Richard Parry Hughes, fod yr adroddiad wedi cael ei baratoi ar ôl 50 o "gyfarfodydd ymgynghorol cychwynnol" â rhieni a llywodraethwyr drwy'r sir.
Byddai cau unrhyw ysgol yn "creu emosiwn," meddai ond roedd yr adroddiad yn cynnig ffordd bositif ymlaen mewn rhai ardaloedd, yn enwedig yr ardaloedd lle byddai system ffederal i gadw'r ysgol leol i fynd.
"Mae'r adroddiad ymgynghorol wedi edrych ar bob un o'r 106 ysgol yn onest a chlir," meddai.
Gallai'r cynlluniau weddnewid addysg gynradd
|
Fe fydd tair ysgol ardal yn cael eu hagor ar safleoedd presennol a 18 ysgol ffederal yn cael eu sefydlu ar 55 safle.
Fe fydd y cynlluniau'n cael eu gweithredu dros gyfnod o chwe blynedd ac fe fydd 'na gyfnod ymgynghori.
Dywedodd Iwan Trefor Jones, Cyfarwyddwr Datblygiad Strategol y cyngor, fod angen newidiadau am fod nifer y disgyblion wedi gostwng yn fawr ers 20 mlynedd.
Prif nod y newidiadau, meddai, oedd gwneud y gorau o'r adnoddau yn lle cadw 2,400 o lefydd gwag ar gost o £850,000 y flwyddyn.
"Yr angen am y gorau i'r plant ydi hyn," meddai.
Fe fydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i aelodau Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc y cyngor ar Hydref 25.