BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 19 Hydref 2007, 18:38 GMT 19:38 UK
Menter Iaith newydd yn y de
Ysgol Gyfun Gwynllyw, Pont-y-Pŵl
Mae mwyafrif disgyblion Ysgol Gyfun Gwynllyw yn dod o deuluoedd di-Gymraeg

Mae Menter Iaith newydd wedi cael ei sefydlu ar gyfer ardal Torfaen, sir Fynwy a Blaenau Gwent.

Cafwyd cyfarfod cyhoeddus yn Ysgol Gyfun Gwynllyw, Pont-y-Pŵl ddydd Gwener i ddathlu sefydlu'r fenter, ac i drafod y cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg yn y rhan hon o'r de ddwyrain.

Wrth groesawu'r fenter, dywedodd dirprwy faer Torfaen, y cynghorydd Aneurin James, bod nifer y siaradwyr Cymraeg yn yr ardal ar gynnydd, a thynnodd sylw at lwyddiant yr ysgol uwchradd Gymraeg yn Nhorfaen, Ysgol Gyfun Gwynllyw.

Cafodd drysau'r ysgol ei hagor gynta yn 1988, yr un flwyddyn ag yr ymwelodd yr Eisteddfod Genedlaethol â Chasnewydd.

Mewn ardal yn y de ddwyrain sydd ar y ffin â Lloegr, mae canran uchel o ddisgyblion yr ysgol yn dod o gartrefi di-Gymraeg.

'Chwarae teg'

Galwodd y cynghorydd Aneurin James ar Fwrdd yr Iaith a Llywodraeth y Cynulliad i roi "chwarae teg" i'r ardal wrth ddosbarthu arian i hyrwyddo'r iaith.

Yn y cyfarfod cyhoeddus, darllenodd ysgrifennydd y fenter, Steffan Webb, lythyr o gefnogaeth gan Weinidog Treftadaeth Llywodraeth y Cynulliad, Rhodri Glyn Thomas.

Mae nifer o Fentrau Iaith ledled Cymru yn cymryd rhan yn yr ymgyrch Cymraeg yn Gyntaf. Pwrpas yr ymgyrch yw i annog pobl yn yr ardaloedd hyn i ddefnyddio mwy o'u Cymraeg yn eu bywydau bob dydd.

Bydd yr ymgyrch yn targedu siaradwyr a dysgwyr Cymraeg er mwyn eu cael nhw i fentro defnyddio Cymraeg cyn Saesneg wrth ddechrau sgwrs.


HEFYD
Comisiwn: 'Iaith yn eilradd'?
19 Hyd 07 |  Newyddion
Ymchwil i roi hwb i'r Gymraeg?
26 Medi 07 |  Newyddion
Defnydd 'helaeth' o'r Gymraeg
03 Awst 07 |  Newyddion
Dysgu Cymraeg: Tiwtoriaid yn brin
17 Maw 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^