BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 19 Hydref 2007, 11:42 GMT 12:42 UK
AC Plaid Cymru: 'Ysgytwad'
Mohammad Asghar
Roedd Mohammad Asghar ym Mhacistan ar y pryd

Mae o leiaf 120 o bobl wedi cael eu lladd mewn dau ffrwydrad ym Mhacistan ddydd Iau.

Cafodd cerbyd y cyn-brifweinidog Benazir Bhutto ei dargedu yn y brifddinas Karachi.

Ychydig o droedfeddi o'r ffrwydradau roedd AC Plaid Cymru, Mohammad Asghar, sy'n wreiddiol o Bacistan.

Wrth siarad o Karachi dywedodd na chafodd ei anafu ond iddo gael "ysgytwad".

Wrth lwc, meddai, roedd yn sefyll ger dau uchelseinydd adeg y ffrwydrad.

'Sŵn enfawr'

"Ar l sŵn enfawr a fflach roedd cyflafan.

"Gwelais hi fam yn chwilio am ei mab 21 oed - ychydig o funudau'n gynt roeddwn i wedi gweld ei gorff.

"Dwi ddim wedi cael profiad fel hwn o'r blaen. Dwi ddim yn siwr sut y llwyddais i oroesi."

Mae wedi bod i sawl ysbyty yn yr ardal, meddai, ers y ffwydrad ac roedd yn gobeithio cyfarfod Ms Bhutto yn ddiweddarach.

Roedd AC Dwyrain De Cymru, gafodd ei ethol ym mis Mai, i fod i aros ym Mhacistan am wythnos.

Y gred yw ei fod e a gwleidyddion eraill i fod i sicrhau bod Ms Bhutto yn cael ei thrin yn deg wrth fynd yn l i Bacistan.

"Roedd wedi cael ei wahodd gan Benazir Bhutto i fynd yno," meddai llefarydd ar ran y blaid.

"Ac roedd yn gobeithio y byddai mynd i'r wlad yn golygu y byddai democratiaeth yn dod yn l yn gynt.

"Dyw e ddim am ochri neb - mae'n gwbl niwtral."

Dywedodd prif weithredwraig y blaid, Gwenllian Lansdown, fod Mr Asghar wedi ei ffonio hi a rhoi gwybod ei fod yn saff.

'Rhyddhad'

"Mi ges i ryddhad mawr," meddai hi.

"Roedd yr ymosodiad yn erchyll a Mohammad wedi cael ei ysgwyd.

"Rydan ni'n cydymdeimlo 'r dioddefwyr a'u teuluoedd."

Roedd Ms Bhutto yn dychwelyd i Bacistan ar l byw'n alltud ers wyth mlynedd. Chafodd hi ddim ei hanafu.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^